Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
Mae rhan o Hanbury Road yng nghanol tref Pont-y-pŵl wedi ailagor bron i wythnos yn gynt na'r disgwyl.
Roedd y ffordd i fod i fod ar gau rhwng cylchfan Clarence Corner a Glantorvaen Road tan ddydd Llun Ebrill 7 ond ail-agorodd heddiw - chwe diwrnod yn gynharach na'r disgwyl.
Disgwylir i wasanaethau bysiau ddechrau eto o heddiw ymlaen a bydd ysgolion yn cael gwybod. Serch hynny, y cyngor yw i bobl wirio cyn teithio.
Mae toiledau Hanbury Road hefyd wedi ailagor.
Caewyd y ffordd i alluogi Dŵr Cymru i ddargyfeirio carthffos a alluogi ar gyfer datblygiadau yng nghanol y dref yn y dyfodol, wedi eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Cafodd gwaith ychwanegol ei wneud i ailosod y goleuadau traffig y tu allan i'r llyfrgell a gosod ceblau trydan newydd i wella'r cyflenwad ynni i ganol y dref hefyd tra bod y ffordd ar gau.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydym yn deall bod cau'r ffordd wedi bod yn anodd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr a hoffwn ddiolch i bobl am eu hamynedd.
"Rwy'n falch nid yn unig bod y prosiect wedi'i gwblhau'n gynnar ond bod gwaith ychwanegol wedi digwydd hefyd a fyddai’n gofyn am gau’r ffordd eto yn y dyfodol.
"Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau bod y seilwaith bellach yn bod i alluogi canol tref Pont-y-pŵl i elwa o fuddsoddiad yn y dyfodol."
Bydd cynlluniau ar gyfer ailddatblygu toiledau Hanbury Road a Maes Parcio Glantorvaen Road, rhan o brosiect ehangach Hwb Diwylliannol ac Ardal Gaffi Pont-y-pŵl, yn cael eu trafod gan aelodau’r cabinet ddydd Mawrth, Ebrill 1.
Bydd gwaith i adfer y Gerddi Eidalaidd at eu cyflwr blaenorol yn digwydd fel rhan o ailddatblygiad toiledau Hanbury Road.
Am fanylion newidiadau i wasanaethau bysiau, ewch i wefan Stagecoach, lawrlwythwch ap Stagecoach neu dilynwch @StagecoachWales ar X ar gyfer newyddion byw. Gallwch hefyd fynd at wefan Phil Anslow