Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Hydref 2023
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi gweld y nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn cofrestru ar gyfer ei Rhaglen Gwirfoddolwyr Ieuenctid eleni.
A diolch i'r gwirfoddolwyr, mae'r tîm wedi darparu gweithgareddau i fwy o blant a phobl ifanc yn Nhorfaen nag erioed o'r blaen.
Nawr, mae'r prosiect wedi ennill gwobr 'Calon y Gymuned' Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, sy'n cydnabod grwpiau o wirfoddolwyr sy'n cael effaith gadarnhaol yn y gymuned leol.
Mae'r Rhaglen Gwirfoddolwyr Ieuenctid wedi bod yn rhedeg ers 22 mlynedd ac mae'n cynnig llwyfan cefnogol i bobl ifanc o bob gallu a chefndir cymdeithasol roi o'u hamser rhydd i redeg lleoliadau chwarae cymunedol.
Mae mwy na 3000 o bobl ifanc wedi cael eu grymuso drwy'r prosiect, sy'n dod i gyfanswm o dros 338,000 awr o wirfoddoli wedi’u rhoi i gefnogi hawl pob plentyn i chwarae.
Mae wedi rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc, fel Tayla Hinwood, o weithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â rhoi blas cyntaf iddynt o'r amgylchedd gwaith.
Dywedodd: "Dechreuais wirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Chwarae 3 blynedd yn ôl dim ond yn ystod y gwyliau ac yna ymrwymo i ddarpariaethau yn ystod y tymor. Yn ddiweddar, cefais swydd fel Prentis Chwarae gyda Chyngor Torfaen, ac roedd hyn oherwydd yr holl brofiad gwirfoddoli yr oeddwn i wedi'i gael"
Mae seremoni flynyddol Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymunedol TVA yn tynnu sylw at gyfraniadau gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn Nhorfaen sy'n dangos anhunanoldeb, ymroddiad a gwasanaeth rhyfeddol.
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae yng Nghyngor Torfaen:
"Mae'r tîm a minnau'n falch iawn o ennill y wobr hon. Rydym ni wedi adeiladu ar y prosiect hwn ers blynyddoedd lawer ac rydym ni bob amser yn cael ein syfrdanu gan nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y prosiect bob blwyddyn. Heb wirfoddolwyr, ni fyddem yn gallu darparu portffolio mor eang o ddarpariaeth chwarae. Yn yr un modd, heb ein prosiect gwirfoddoli, ni fyddem yn gallu darparu lefelau mor uchel o integreiddio ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol.
"Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi ein sesiynau chwarae a seibiant wythnosol, clybiau ar ôl ysgol, darpariaethau hanner tymor a'r haf."
Mae Chwarae Torfaen bellach yn paratoi i gyflwyno llu o weithgareddau yn ystod cyfnod hanner tymor mis Hydref, yn ei wersylloedd Chwarae a Lles, Gwersylloedd Actif a sesiynau gofal seibiant.
Dywedodd Aimi Morris, Swyddog Gweithredol yng Nghynghrair Gwirfoddol Torfaen:
"Roedd yn anrhydedd i TVA noddi gwobr Calon y Gymuned eleni, a gweld Chwarae Torfaen yn enillwyr haeddiannol. Mae eu gwaith yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth ac yn ein hatgoffa o'r newid cadarnhaol y gall unigolion ei gyflawni trwy eu hymroddiad a'u gwaith caled.
"Gwirfoddolwyr yw'r sbardun y tu ôl i fentrau di-ri, ac maen nhw’n yn ein hatgoffa o'r potensial diderfyn ym mhob un ohonom i gael effaith gadarnhaol a chreu dyfodol mwy disglair i'n cymuned. Da iawn Chwarae Torfaen!"