Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Mehefin 2023
Mae disgwyl gweld hyd at 1,000 o redwyr yn taro’r tarmac ar gyfer ras 10k Torfaen Mic Morris eleni, a gynhelir ddydd Sul 16 Gorffennaf.
Er mwyn sicrhau diogelwch pob un, bydd yr heolydd canlynol ar gau ym Mlaenafon a Phont-y-pŵl, rhwng 8am a 11.30am:
- A4043 Cwmavon Road o gyffordd Prince Street a New William Street ym Mlaenafon i Old Road yn Abersychan
- Old Road
- Limekiln Road
- Freeholdland Road
- George Street
- Mill Road
- Hospital Road
- Rhan ogleddol Osbourne Road hyd nes y gyffordd gyda Riverside
- Riverside
- Park Road yn arwain i fyny at Penygarn Road
Bydd rhedwyr yn dechrau ar Cwmavon Road ym Mlaenafon am 9am, a disgwylir y bydd pob un wedi croesi’r llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl erbyn 11am.
Ni fydd yr heolydd ochr yn cael eu cau’n ffurfiol, ond ni fydd mynediad i unrhyw gerbydau i’r llwybr yn ystod y ras.
Os bydd y trefniadau hyn yn effeithio ar eich gallu i deithio neu’ch cyfrifoldebau gofal, cysylltwch â Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 cyn gynted â phosibl, er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer rheoli’r traffig ar y diwrnod.
Meddai trefnydd y digwyddiad a Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen, Ben Jeffries: “Ymddiheurwn o flaen llaw i unrhyw un sy’n wynebu anghyfleustra am ein bod ni’n cau’r heolydd. Gobeithiwn y bydd y rhybudd hwn yn golygu bod trigolion yn gallu gwneud trefniadau eraill ar gyfer y ffenestr fechan hon o amser pan fydd yr heolydd ar gau.
“Anfonwyd gwybodaeth trwy’r post at drigolion sy’n byw ar yr heolydd sy’n cael eu cau a byddwn yn edrych ar agor pob rhan o’r llwybr ar y cyfle cynharaf."
Mae Datblygu Chwaraeon Torfaen yn chwilio am wirfoddolwyr i estyn llaw yn ystod y digwyddiad ac, yn ddychwelyd, bydd gwirfoddolwyr yn cael lle am ddim yn ras y flwyddyn nesaf.
Er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli neu i noddi’r digwyddiad eleni, cysylltwch â Ben Jeffries ar 01633 628936 neu anfonwch neges e-bost i ben.jeffries@torfaen.gov.uk
Am ragor o wybodaeth am ras 10k Torfaen Mic Morris, ewch i: Torfaen 10k (fullonsport.com)