Hanes Parc Pont-y-pŵl
Mae Parc Pont-y-pŵl yn cynnwys rhyw 64 hectar a chafodd ei osod yn wreiddiol tua 1703 fel ystâd breifat.
Mae hen 'fap' yn dangos rhodfeydd o gastanwydd melys a ffawydd yn dilyn amlinell y cymoedd i fyny tuag at y Tŵr Ffoli.
Mae llawer o'r hen gastanwydd melys yn dal i'w gweld, o amgylch Pyllau Nant-y-Gollen a ger Cylch Meini'r Orsedd ac yn ôl y sôn dyma'r rhai mwyaf mor bell i'r gogledd â hyn. Cawsant eu plannu'n wreiddiol i gynhyrchu golosg ar gyfer y gefeiliau haearn ar hyd yr Afon Lwyd.
Yn ystod y 100 mlynedd nesaf plannwyd castanwydd, derw, ffawydd ac yw gan guddio'r rhodfeydd ffurfiol a chreu'r ardaloedd coediog ar hyd yr afon a'r prif lwybr i Bontymoile. Cadwodd y Parc ei gymeriad agored a'r golygfeydd tuag ar y crib ffawydd. Roedd y Groto Cregyn a'r dref ei hun i'w gweld yn amlwg.
Ar ddechrau’r 20fed ganrif, daeth y Parc yn eiddo i'r cyhoedd er budd cymuned Pont-y-pŵl.
Cafodd planhigfeydd coniffer eu cyflwyno yn ystod y 1950-60au a chawsant eu gadael heb eu rheoli ac mae hyn, ynghyd â thyfiant nifer o'r coed a blannwyd yn wreiddiol, wedi newid y tirlun i fod yn barc coediog aeddfed yn bennaf gyda rhywfaint o ddolydd agored.
Mae'r Parc yn cynnwys nifer o ardaloedd hanesyddol yn cynnwys y Gerddi Eidalaidd, Twnnel y Dramffordd, Rhewdai a Groto Cregyn. Cafodd y Groto Cregyn ei adeiladu oddeutu 1829 gan Molly Mackworth fel tŷ haf, rhyw 220m uwchben yr ardal o amgylch ac mae golygfeydd ysblennydd ar draws y wlad agored ac Aber Hafren oddi yno.
Cronoleg o Ddyddiadau Pwysig
Cronoleg o Ddyddiadau Pwysig
Date | Event |
1576 |
Richard Hanbury'n dod i Bont-y-pŵl |
1655 |
Capel Hanbury yn cymryd prydles am 'lain o dir o'r enw Pont-y-pŵl, ynghyd â'r efail ac adeiladwyd gyda hynny' |
1689 |
Capel Hanbury yn prynu ardal sylweddol o'r hyn a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel Parc Pont-y-pŵl |
1694 |
Uwchgapten John Hanbury yn adeiladu'r tŷ cyntaf yn y Parc 1720 adeiladu giatiau Pontymoile
|
1730 |
Ralph Allen o Prior Park (Caerfaddon) yn ymweld
|
1752 |
Tŷ yn ehangu tua'r gorllewin
|
1765 |
Gwneud bwrdd Japan |
1808 |
Adeiladu gwaith tun Pontymoile
|
1800-10 |
Ailwampio'r tŷ yn gyfan gwbl i wynebu'r de |
1830au |
Adeiladu'r Groto Cregyn |
1831 |
Datgymalu Gefail y Parc |
1834 |
Tŵr Ffoli Castellog yn cael ei adeiladu ar safle bresennol y tŷ haf |
1835 |
Ail fodelu Giatiau Pontymoile
|
1835 |
Cwblhau'r stablau, dymchwel y colomendy a'r capel
|
Wedi 1834 |
Dymchwel Gefail y Dref
|
1850au |
Datblygu'r Gerddi Americanaidd |
1872 |
John Hanbury Leigh yn dymchwel pen gorllewinol y tŷ ac adeiladu'r estyniad Fictorianaidd presennol |
1915 |
Tŷ'n cael ei osod i Chwiorydd yr Ysbryd Glân |
1920 |
Gwerthu'r Parc i'r awdurdodau cyhoeddus |
1920 |
Cau rheilffordd y dramffordd |
1923 |
Creu Cylch Meini'r Orsedd |
1924 |
Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
1924 |
Adeiladu cyrtiau tennis |
1924 |
Gerddi Eidalaidd yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau lleol |
1925 |
Gosod y lawnt fowlio |
1925 |
Gosod y cae rygbi (hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer criced) |
1931 |
Codi'r Safle Seindorf |
1940 |
Dymchwel y Tŵr Ffoli |
1945 |
Adeiladu'r Eisteddle |
1952 |
Codi'r Cloc Coffa |
1952 |
Plannu'r Rhodfa Geirios |
1959 |
Dymchwel Porthdy Pontymoile |
1974 |
Adeiladu canolfan hamdden ac ardal chwarae |
1975 |
Adeiladu llethr sgïo sych |
1994 |
Agor y Tŵr Ffoli newydd yn swyddogol gan EUB y Tywysog Charles |
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig