Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth a Chelfyddydau Pobl Ifanc Torfaen
Mae llawer o bobl ifanc yn Nhorfaen yn rhagori yn y celfyddydau ac yn perfformio ar bob lefel, ac mae llawer ohonynt yn dangos brwdfrydedd ac ymroddiad, yn ogystal â llawer o ddoniau rhagorol.
Sefydlwyd y gronfa hon i hyrwyddo addysg pobl ifanc mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau, naill ai trwy gyrsiau arbenigol, preswylfeydd creadigol, cyrsiau untro a / neu hyfforddiant pwrpasol a gyflawnir trwy broses clyweliad neu gyfweliad.
Yr amcan pennaf yw hyrwyddo lles cymdeithasol pobl ifanc Torfaen a chefnogi eu dyheadau yn y dyfodol.
Derbynnir ceisiadau drwy’r flwyddyn ond unwaith y flwyddyn ar ddiwedd mis Mai yn unig fydd y ceisiadau’n cael eu hasesu Un grant y flwyddyn yn unig y gellir ei ganiatáu i bob ymgeisydd.
Meini prawf
Gofynion:
- Fod yn 25 oed neu'n iau adeg cyflwyno'r cais
- Byw yn Nhorfaen
- Datgan unrhyw gymorth ariannol y mae wedi'i gael yn barod
- Dangos ffyddlondeb, ymroddiad ac ymrwymiad i gerddoriaeth neu'r celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, celf a dylunio - gan gynnwys ers pryd y bu'n canlyn y diddordeb hwnnw
- Bod wedi cyrraedd safon cyflawniad cydnabyddedig
- Datgan rheswm dros y cais - rhaid bod yn benodol
- Cael cefnogaeth gan ganolwr proffesiynol priodol ar gyfer y cais
- Cworwm o'r ymddiriedolwyr a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, a bydd ganddynt ryddid o ran dehongli'r meini prawf uchod
- Ar gyfer cyfleoedd datblygu yn unig y bydd grantiau yn cael eu hystyried hy cyrsiau penodol, ysgolion haf, hyfforddiant pwrpasol ac ati
- Ni ystyrir grantiau ar gyfer cyfarpar neu wersi parhaus
- Ni ystyrir grantiau i ariannu cyrsiau addysg uwch / llawn amser parhaus
Gweinyddu'r Ymddiriedolaeth
Er mai'r Ymddiriedolwyr sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar bob cais, caiff pob un ei brosesu gan Weinyddydd y Gronfa Ymddiriedolaeth ac mae modd cysylltu â hi yn:
Gwasanaethau Cymdogaeth - Y Tîm Diwylliant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Tŷ Blaen Torfaen
Ffordd Panteg
Y Dafarn Newydd
Pont-y-pŵl
NP4 0LS
Cwestiynau Cyffredin
Sut ydw i'n gwneud cais i'r gronfa?
Dylech ddarllen y dudalen hon yn ofalus ac ystyried a ydych yn bodloni'r meini prawf. Os ydych chi'n meddwl eich bod yn bodloni'r meini prawf, yna dylech fynd ati a gwneud cais am grant gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth a Chelfyddydau Pobl Ifanc Torfaen. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich cymhwysedd gallwch gysylltu â Gweinyddwr y Gronfa Ymddiriedolaeth fydd yn hapus i'ch helpu.
Sut bydd y gronfa'r dyrannu ei harian?
Yr ymddiriedolwyr fydd yn penderfynu ar y grantiau a ddosberthir.
Beth fydd yn digwydd ar ôl iddynt dderbyn fy nghais?
Bydd y Gweinyddwr sicrhau bod eich cais yn bodloni'r meini prawf. Os ydyw, bydd y cais yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf yr Ymddiriedolwyr.
Pwy yw'r Ymddiriedolwyr?
Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Chadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr
Y Cynghorydd Colette Thomas, Sefydlydd yr Ymddiriedolaeth
Y Parchedig Harald Thomas
Canon Brian Pippen
Mr Martyn Redwood
Mr Simon Linton, Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent
Noddwr
Mr Nick Thomas-Symonds AS
Gweinyddol
Verity Ryan, Rheolwr Datblygu Marchnata, Datblygu’r Celfyddydau
Pryd fyddaf yn clywed am fy nghais?
Os ydych am i ni gydnabod eich cais, bydd angen i chi gysylltu â'r Gweinyddwr yn uniongyrchol i gadarnhau bod y ffurflen wedi cael ei derbyn. Unwaith y cynhelir cyfarfod adolygu ar ddechrau mis Mehefin, byddwch yn cael gwybod am benderfyniad yr ymddiriedolwyr a'r swm y byddant yn barod i'w ddyfarnu i chi.
Pryd fyddaf yn gwybod a fuodd fy nghais yn llwyddiannus?
Bydd y Gweinyddwr yn ysgrifennu atoch yn ystod yr wythnos yn dilyn y cyfarfod.
Os byddaf yn llwyddiannus pryd fyddaf yn derbyn y grant?
Bydd Gweinyddwr yr Ymddiriedolaeth yn anfon siec am swm y grant i chi o fewn 28 diwrnod. Yn ystod y tri mis canlynol bydd angen i chi ddarparu copïau o'r holl dderbyniadau ar gyfer y nwyddau neu wasanaethau a brynwyd gydag eich grant a dychwelyd ffurflen datganiad a gwblhawyd at Weinyddwr yr Ymddiriedolaeth. Rhaid i'r Gweinyddwr gytuno ar drefniadau amgen i'r rheol hon.
Os na fyddaf yn llwyddiannus a fedraf apelio?
Penderfyniad yr Ymddiriedolaeth yw’r penderfyniad terfynol.
A fyddaf yn derbyn unrhyw gyhoeddusrwydd?
Byddwch, os ydych yn dymuno. Gall hyn fod yn y wasg, papur bro lleol neu mewn digwyddiad codi arian dan ofal y maer.
A oes unrhyw fusnesau lleol yn cefnogi'r gronfa?
Cysylltwyd â llawer o fusnesau lleol yn ogystal â Chynghorau Cymuned a Chynghorwyr am gymorth ariannol.
Sut mae'r arian yn cael ei ddyrannu?
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf yn erbyn meini prawf penodol. Os bydd y cais yn bodloni'r meini prawf, gyda'r Ymddiriedolwyr y bydd y penderfyniad terfynol.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig