Cymorth Tai
Gall ein gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai eich helpu i ddod o hyd i lety addas a'i gynnal.
Os oes angen help arnoch ar frys, gallwch ymweld ag un o'n darpariaethau galw heibio heb apwyntiad:
The Wallich -Cymorth a Chyngor ar Faterion Tai
- Pearl House, Pont-y-pŵl - Dydd Llun i ddydd Gwener - 9am – 5pm
- Canolfan Waith Cwmbrân - Dydd Iau - 1pm – 4pm
- Partneriaeth Garnsychan - Trydydd dydd Mawrth o bob mis - 10:30 – 13:30
- Ffôn: 01495 366895
Pobl
- Partneriaeth Garnsychan - Dydd Mawrth cyntaf o bob mis - 10:30 – 13:30
- Eglwys Sharon, Pont-y-pŵl - Dydd Mercher - 10am – 12pm
- Eglwys Dwy Loc, Cwmbrân - Dydd Mercher - 10am – 12pm
Platform - Cymorth a Chyngor ar faterion Tai
- Llyfrgell Cwmbrân - Dydd Llun - 10am – 2pm
- Canolfan Waith Cwmbrân - Dydd Iau - 9:30 – 12pm
- Capel Bethlehem, Blaenafon - Dydd Iau - 9.30am – 11.30am
- FFôn: 01495 760390
Stori
- Eglwys Hill City, Capel Emmaus, Pont-y-pŵl - Dydd Mercher - 1pm - 3pm
- Eglwys Dwy Loc, Cwmbrân - Dydd Iau - 10am – 12pm
- Ffôn: 01495 533522
Gall gwasanaethau helpu gyda:
- Trefnu/cynnal tenantiaeth
- Cyngor ar faterion tai
- Rheoli taliadau rhent/biliau
- Cymorth ariannol a hawlio budd-daliadau
- Mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyfleoedd gwaith
Nid yw cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn cynnwys gwasanaethau cwnsela, gwasanaethau personol neu ofal, a siopa neu wasanaethau garddio.
Gall y gwasanaeth helpu os ydych yn wynebu problemau sy’n gysylltiedig â thai oherwydd:
- Cam-drin domestig
- Iechyd meddwl
- Dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol
- Anawsterau dysgu
- Anableddau corfforol
Gallwn hefyd helpu pobl ifanc 16-24 oed a Sipsiwn a Theithwyr sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref neu gynnal cartref.
I gael eich atgyfeirio at wasanaeth:
Gall person gwblhau atgyfeiriad ar eich rhan.
Bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi o fewn 2 i 4 wythnos i asesu pa mod addas ydych i dderbyn y gwasanaeth, a dechrau’r cymorth.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/08/2025
Nôl i’r Brig