Croeso i Dŷ Glas y Dorlan

Ty Glas y Dorlan Logo

Cynllun cydweithredol rhwng Cyngor Torfaen a Thai Cymunedol Bron Afon a agorodd yn Hydref 2021 yw Tŷ Glas y Dorlan ym Mryn Eithin, Cwmbrân.

Mae'n hwb lles amlbwrpas lle bydd croeso cynnes, cyfeillgar, ar gael bob amser i westeion, tenantiaid, y gymuned, gweithwyr proffesiynol, pobl sy'n ymweld, a'r cyhoedd

  • Mae Tŷ Glas y Dorlan yn cynnig cefnogaeth i bob oedolyn dros 18 oed a'r rhai sydd ychydig yn iau ac sy’n pontio i fod yn oedolion
  • Mae gan Dŷ Glas y Dorlan 6 fflat llawr uchaf ar gyfer tenantiaethau tymor hir
  • Mae gan Dŷ Glas y Dorlan 12 fflat arhosiad byr i westeion ddarganfod yr hyn sy’n bosibl iddynt o ran annibyniaeth
  • Mae gan Dŷ Glas y Dorlan gefnogaeth fesul sesiwn i'r rhai nad ydynt am aros dros nos
  • Mae Tŷ Glas y Dorlan yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bawb sydd ei eisiau am gefnogaeth lles, cymdeithasol a chymunedol

Os gofynnir y cwestiwn "sut fedrai, fel unigolyn

  • gael y cyfle iawn:
  • ar yr adeg iawn; ac
  • yn y ffordd gywir
  • gydag anogaeth, cefnogaeth a gallu i ddatblygu a chynnal y sgiliau sy'n bwysig i mi
  • i fyw'r bywyd yr wyf am ei fyw a hynny mor annibynnol â phosibl yn fy nghartref fy hun

ar ôl bod yn yr ysbyty, ar ôl wynebu salwch neu ddigwyddiad sy’n newid bywyd, neu i gefnogi fy ngofalwyr i fy nghefnogi"

  • yna Tŷ Glas y Dorlan yw’r lle i chi.

Bydd yr hwb yn cynnig lle cyfeillgar hawdd mynd ato i wella, gydag ymdeimlad o westy. Lle sy'n fwy nag adeilad, lle bydd yn eich galluogi i fagu hyder, trwy annibyniaeth. Man lle mae rhoi cynnig ar bethau newydd a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd yn cael ei annog a'i ddathlu. Man lle na allwch fethu, am mai dysgu i wneud pethau mewn ffordd wahanol yw ein ffordd o weithio. Gallwch wneud hyn, ynghyd â'ch gofalwr, neu ar wahân cyn dychwelyd i'ch cartref eich hun.

Bydd Tŷ Glas y Dorlan hefyd yn cynnig seibiannau bach byr gyda gweithgareddau ac adloniant dan gyfarwyddyd y gwesteion yn yr hwb, a chyfle i ail-wefru a "dianc rhag y cyfan" gyda grwpiau cyfeillgarwch, pobl sydd â'r un diddordebau, neu'n unigol neu gyda gofalwyr hefyd.

I'r rhai sy'n dewis aros gyda ni, bydd gofal a chefnogaeth ar y safle 24/7 gyda mynediad at Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n canolbwyntio ar atebion galluogi trwy gydol y dydd.

Artists impression of Ty Glas y Dorlan building

Diwygiwyd Diwethaf: 28/02/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ty Glas y Dorlan

Ffôn: 07815481020

Nôl i’r Brig