Y Gwasanaeth Hyfforddwr Technoleg
Mae'r Hyfforddwr Technoleg yn wasanaeth rhad ac am ddim sydd ar gael i bobl hŷn, gofalwyr a phobl ag anableddau dysgu sy'n byw yn Nhorfaen. Prosiect peilot yw'r Hyfforddwr Technoleg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynyddu'r defnydd o dechnoleg i'r eithaf ymhlith y bobl sy'n byw yn Nhorfaen.
Gall y gwasanaeth gynnig cyngor / cymorth o ran:
- Canfod y dechnoleg sydd orau i anghenion y defnyddiwr
- Gosod offer newydd
- Defnyddio technoleg
Cymorth un i un
Mae gan bawb lefel gwahanol o allu o ran defnyddio technoleg. Bydd gan unigolion nodau gwahanol y maent am eu cyflawni a byddant yn gweithio tuag at y nodau hynny ar wahanol gyflymderau. Mae pawb yn wahanol.
Beth bynnag yw angen yr unigolyn, gall yr Hyfforddwr Technoleg drafod sut y gallant symud ymlaen tuag at eu nodau. Cynigir cymorth un i un yng nghartref y dysgwr a bydd nifer y sesiynau sydd eu hangen yn dibynnu ar yr hyn y mae'r dysgwr eisiau ei gyflawni. Ar ôl cyflawni amcan y dysgwr, gall unigolion benderfynu symud ymlaen at amcan arall sydd gan y dysgwr neu orffen defnyddio'r Gwasanaeth Hyfforddwyr.
Sesiynau grŵp
Mewn llawer o achosion, nid fydd angen cymorth un i un ar bobl yn y gymuned. Bydd sesiynau grŵp yn cael eu sefydlu o amgylch Torfaen, gan gynnig cyfle i ddysgu am bynciau pwysig (fel diogelwch ar-lein) a darparu gwasanaeth galw heibio i bobl sydd â chwestiynau am ddefnyddio a chyrchu technoleg. Er enghraifft, gallai hwn fod yn gwestiwn ynglŷn â defnyddio ap map ar ffôn clyfar, neu sut i ddangos lluniau gwyliau ar deledu.
Digwyddiadau ‘un tro’
Efallai y gwelwch yr Hyfforddwr Technoleg allan yn y gymuned yn ystod y dydd. Bydd yr Hyfforddwr ar gael i ddarparu mwy o wybodaeth am y gwasanaeth; gwybodaeth ar sut i wneud cais am gymorth un i un; a gall hefyd ateb eich cwestiynau cyflym ar dechnoleg (hyd eithaf ei allu).
Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth
I ofyn i'r Hyfforddwr Technoleg gysylltu â chi ynglŷn â darparu cymorth un i un, gellir atgyfeirio i'r tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01495 762200.
Os ydych chi am fynychu sesiwn grŵp, nid oes angen archebu er y bydd galw arnoch i gofrestru'ch presenoldeb.
Sut ydw i’n cwyno am y gwasanaeth?
Os hoffech gwyno’n swyddogol am y gwasanaeth cysylltwch ar 01495 742164 neu corporatecomplaints@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2024
Nôl i’r Brig