Cysylltu Gofal Cymdeithasol
Os hoffech chi gysylltu â Gofal Cymdeithasol a Thai, cysylltwch â ni ar un o'r canlynol:
Rydym ar agor:
- 8:30am - 5:00pm - Dydd Llun i ddydd Iau
- 8:30am - 4:30pm - Dydd Gwener
Rydym ar gau ar Wyliau Banc.
Cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol y Tu Allan i Oriau
Tîm Dyletswydd Brys De Ddwyrain Cymru
Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gwasanaeth brys y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae'r gwasanaeth hwn yn delio â sefyllfaoedd brys yn unig na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf.
Ffoniwch - 0800 3284432
Pryd y gall y Tîm Dyletswydd Brys helpu
- mae angen diogelu plentyn neu berson ifanc ar frys rhag niwed
- mae angen cymorth, cyngor neu gefnogaeth frys ar riant, gofalwr maeth neu blentyn
- mae angen gofal brys ar ofalwr neu oedolyn bregus (y rhai â phroblemau iechyd meddwl, anableddau corfforol neu anableddau dysgu neu bobl hŷn).
Ni allwn helpu os
- gall y sefyllfa aros tan y diwrnod gwaith nesaf, heb risg o niwed
- mae'n ddiwrnod gwaith. Nid ydym ar gael felly cysylltwch ar 01495 762200
- mae'n argyfwng meddygol - rhaid i chi ffonio'ch meddyg teulu neu ambiwlans.
Pwy all ddefnyddio’r Gwasanaeth?
Pobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, sydd angen cymorth brys gan y gwasanaethau cymdeithasol, p'un a ydyn nhw eisoes yn derbyn ein gwasanaethau ai peidio.
Pryd mae'r gwasanaeth ar gael?
Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu pryd bynnag y bydd y swyddfeydd gwasanaethau cymdeithasol eraill ar gau.
- Dydd Llun – ddydd Iau - 5:00pm - 8:30am
- Dydd Gwener - 4:30pm tan 8:30am y dydd Llun canlynol
- Gwyliau Banc a phenwythnosau - 24 awr
Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2023
Nôl i’r Brig