Gwasanaethau Plant - Cwynion
Mae gan blant neu bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau plant hawl i ddweud eu dweud am benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, yn enwedig pan fyddant yn teimlo nad yw pethau'n iawn neu eu bod yn anfodlon â gwasanaeth. 
Os ydych chi'n blentyn neu'n unigolyn ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau plant, peidiwch â chadw pethau i chi'ch hun os ydych chi'n teimlo bod angen i rywbeth newid, stopio neu os oes angen help arnoch i roi trefn ar bethau. 
Dywedwch wrth rywun yr ydych yn teimlo y gallwch ymddiried ynddo/ynddi, a bydd ef/hi yn eich helpu. 
Bydd y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) yn eich helpu i leisio eich barn er mwyn i chi gael eich clywed, i'ch hawliau gael eu bodloni a'ch problemau gael eu datrys. 
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i gwyno ar gael yn y daflen Gallwch chi gwyno hefyd.
I gysylltu â swyddog cwynion y gwasanaethau cymdeithasol: 
Ffôn: 01495 742164 
 E-bost: corporatecomplaints@torfaen.gov.uk
Cysylltwch ag NYAS ar: 
 Radffôn: 0808 808 1001 
 E-bost: help@nyas.net 
 www.nyas.net
Neu gallwch ysgrifennu at: 
Complaints Manager, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB
 Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2022 
 Nôl i’r Brig