Rhaglen Dechrau Busnes Torfaen

Lleoliad
Croesyceiliog CEC - The Highway - Croesyceiliog - Cwmbran - NP44 2HF
Categori
Busnes
Dyddiad(au)
14/01/2025 (09:30) - 11/03/2025 (13:00)
Cyswllt
businessdirect@torfaen.gov.uk
Registration URL
https://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=467&eventNo=38874
Disgrifiad

Blwyddyn Newydd, Dechreuad Newydd, Busnes Newydd – Nawr yw’r amser i wireddu’ch breuddwyd!

Rydym wrth ein boddau i gynnig Rhaglen Dechrau Busnes wedi’i hariannu’n llawn ac wedi’i chynllunio i’ch helpu i lansio’ch busnes a’i dyfu.

Bydd ein rhaglen, a arweinir gan arbenigwyr, yn eich tywys ar hyd pob cam o’r ffordd, gan ddarparu’r offerynnau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Efallai eich bod chi newydd ddechrau gweithio ar syniad, neu eisiau mireinio eich cynllun busnes. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, mae ein sesiynau cynhwysfawr yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch:

1. Meddwl am Syniadau

2. Brandio & Marchnata

3. Strategaethau Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefan

4. Gwerthu a Chyllid

5. Ariannu a Materion Cyfreithiol

6. Cael Trefn ar Bethau

7. Model Busnes a Gwerthu’r Syniad

8. Gwerthu’r Syniad yn Derfynol

 

 

Ymunwch â ni i ennill yr hyder, y sgiliau, a’r cymorth sydd ei angen arnoch i wireddu’ch breuddwydion busnes.

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol! Darpariaeth Creche di-dal (meini prawf cymhwysedd)

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2024 Nôl i’r Brig