Lluniwch Hunaniaeth Eich Brand gyda'n Hyfforddiant AM DDIM!
Ymunwch â'n gweithdy Dylunio Brand i feistroli'r grefft o greu hunaniaeth brand gymhellol. Dysgwch sut i ddatblygu tôn unigryw ar gyfer eich brand, dylunio deunydd gweledol effeithiol a sicrhau cysondeb ar draws pob sianel.
Uchafbwyntiau’r Gweithdy:
Pwysigrwydd dylunio brand ac alinio â strategaeth
Dylunio logos, dewis lliwiau, a theipograffeg
Creu canllawiau brand cynhwysfawr
Creu gwefannau hawdd eu defnyddio a gwella presenoldeb digidol
Egwyddorion dylunio print a phecynnu
Casglu adborth a gwella canfyddiad ynghylch y brand
Adeiladwch frand cofiadwy sy'n taro tant gyda'ch cynulleidfa!
Cynhelir Gweithdy Hyfforddiant Busnes Torfaen AM DDIM ddydd Mawrth 18 Chwefror 2025 yng Ngwesty a Sba Parkway o 3-5pm. Mae lleoedd yn gyfyngedig.