Ysgol wirfoddol a gynorthwyir yw Ysgol Gynradd ac Ysgol Feithrin Gatholig Dewi Sant, sy'n darparu ar gyfer plant o 3 i 11 oed. Gweinyddir yr ysgol ar y cyd gan Archesgobaeth Caerdydd ac Awdurdod Lleol Torfaen, ac mae cymeriad, bywyd beunyddiol a dysgeidiaeth grefyddol yr ysgol wedi'u gwreiddio yn y Ffydd Gatholig.
Mae'r ysgol wedi bod yn gwasanaethu Plwyf Dewi Sant a'n cymuned leol yn falch er 1965, gan weithio'n galed i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial ac yn cyflawni safonau uchel trwy gwricwlwm eang, cytbwys a chyffrous. Yn Ysgol Dewi Sant, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar y cysylltiadau rhwng yr ysgol, y cartref, yr Eglwys a'r gymuned.
Ar hyn o bryd, mae chwe dosbarth yn yr ysgol a'r ysgol feithrin. Rydym yn cynnig clwb brecwast ac mae gennym gysylltiadau â Chylch Chwarae ar dir yr ysgol sy'n cynnig darpariaeth 'gofleidiol'. Mae clybiau chwaraeon, côr yr ysgol, gwersi cerddoriaeth a gweithgareddau allgyrsiol yn rhan annatod o'r ddarpariaeth addysgol yn ein hysgol.
Ysgol hapus yw Ysgol Dewi Sant ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad rhieni at addysg eu plant.
Cafodd yr ysgol arolygiad llwyddiannus iawn gan Estyn ym mis Mai 2008. Dyfarnwyd saith gradd 1 i'r ysgol ym mhob maes datblygu ac fe'i disgrifir fel 'ysgol dda gyda llawer o nodweddion eithriadol'.