Ysgol Gynradd Griffithstown

Disgrifiad:

Mae Ysgol Gynradd Griffithstown wedi'i lleoli yng nghalon y gymuned.  Mae modd cyrraedd yr ysgol, sy'n berl cudd gwirioneddol, o ben pellaf Florence Place ac mae'n agor i ddatgelu tirwedd o feysydd chwarae helaeth sy'n ffinio â'r gamlas a Maes Criced Panteg.  Yn dilyn gwaith ailwampio ac ymestyn mawr, mae gan Ysgol Gynradd Griffithstown le i ddau ddosbarth ym mhob grŵp blwyddyn, a chaiff pob grŵp blwyddyn ei drefnu'n amgylcheddau dysgu hyblyg.  Y tu allan, ceir mannau penodol i blant y cyfnod sylfaen gael chwarae yn yr awyr agored, yn ogystal ag ardal ysgol goedwig, dau gae mawr ac iardiau chwarae.  Y tu mewn, mae'r neuadd wedi'i hymestyn ac mae drysau rhannu wedi'u hychwanegu sy'n caniatáu i ddau weithgaredd gael eu cynnal ar yr un pryd. Mae'r ddarpariaeth hon yn golygu bod modd cynnal amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ac iechyd/hamdden ar gyfer yr holl blant. Mae cymuned yr ysgol yn darparu ar gyfer plant o 3 i 11 oed ac mae lle yn yr ysgol i 420 o blant, gyda dosbarth meithrin â 52 o leoedd sy'n gweithredu yn y bore a'r prynhawn.

Ward:
Panteg
Cyfeiriad:
Florence Place
Griffithstown
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 5DN
Ffôn:
01495 759679
Ffacs:
01495 757177
E-bost:
head.griffithstownprimary@torfaen.gov.uk
Adroddiad Arolygu:
Gweld adroddiad arolygu'r ysgol
Manylion Pellach
Pennaeth:
Nick Blackburn
Cadeirydd y Llywodraethwyr:
Allan Peploe
Math o ysgol:
Ysgolion Cynradd
Rheolaeth Ysgol:
Awdurdod Lleol
Iaith yr Ysgol:
Saesneg
Math o Gludiant Ysgol Sydd Ar Gael:
Na
Ystod Oed:
4-11 oed
Manylion Derbyn:
Rhif Mynediad:
60
Admission Start Date:
Dydd Llun 11 Rhagfyr 2017
Admission End Date:
Dydd Gwener 26 Ionawr 2018
Nifer yr Ymgeiswyr (Medi 2017):
37
Nifer y Lleoedd a Rhoddwyd (Medi 2017):
37
Diwygiwyd Diwethaf: 20/03/2023 Nôl i’r Brig