Data Perfformiad Ysgol
Sylweddolwn fod mynediad i wybodaeth am berfformiad ysgol yn bwysig i rieni a gofalwyr sydd angen gwneud dewisiadau gwybodus wrth fynd ati i ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn. Mae angen i’r wybodaeth fod yn gywir, diweddar a hawdd ei chyrchu. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan o’r enw Fy Ysgol Leol .
Gwefan a ddyluniwyd gan Lywodraeth Cymru yw Fy Ysgol Leol a’r Llywodraeth sydd yn gyfrifol amdani. Mae’n rhoi cyfle i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol i gael hyd i ddata’r ysgol.
Mae’r safle yn cynnwys cyfoeth o ddata gan gynnwys canlyniadau ysgol, nifer y disgyblion, presenoldeb a gwybodaeth am staff a chyllid. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd glir a syml.
Mae Fy Ysgol Leol yn caniatáu mynediad ar lein i ddata manwl am berfformiad ysgol ac i helpu rhieni ddeall mwy am eu hysgol leol.
Mae rhai o’r Nodweddion Allweddol yn cynnwys:
- mynediad dwyieithog i wybodaeth am ysgolion unigol
- chwiliad fesul cod post sy’n dangos yr ysgolion yn yr ardal leol
- crynodeb o bob ysgol - braslun data yn dangos ysgol ar yr olwg gyntaf
- cyswllt uniongyrchol i adroddiad diweddaraf gan Estyn ar gyfer yr ysgol – mae’r cyswllt wedi ei leoli ar ben uchaf y dudalen ysgol ar yr ochr dde
- opsiwn i weld gwybodaeth ar ffurf tabl neu siartsiartiau hyblyg – drwy glicio’r eitemau yn y siart mae’r defnyddiwr yn medru addasu golwg y siart
- mynediad i ddewisiadau cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 4 (TGAU)
- rhestr termau – yn y rhestr termau fe wellwch eglurhad o gyfnodau allweddol addysg yng Nghymru
- cwestiynau cyffredin
Hyderwn y bydd y safle yn ddefnyddiol i chi felly mynnwch olwg arno i weld beth yw eich barn chi.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig