Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Torfaen yn rhoi gwybodaeth a chyngor diduedd, rhad ac am ddim am wasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yn cynnwys darpar rheini yn Nhorfaen.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am Ddarparwyr Gofal Plant, Clybiau y Tu Allan i’r Ysgol / Clybiau Gwyliau, Grwpiau Babanod a Phlant Bach, Help tuag at gostau Gofal Plant, Dechrau’n deg a llawer mwy.
Gallwn hefyd gyfeirio rhieni/gofalwyr at wybodaeth am wasanaethau cymorth neu fudiadau eraill yn ôl ymholiadau unigol.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen neu cysylltwch ar radffôn 0800 0196330 neu e-bost fis@torfaen.gov.uk
Rhaglen Dechrau’n Deg
Rhaglen Blynyddoedd Cynnar wedi’i thargedu gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’r rhaglen ar gael mewn rhai ardaloedd i deuluoedd â phlant o dan 4 oed.
Mae pedair elfen graidd i'r Rhaglen Dechrau'n Deg, a dangoswyd bod y rhain yn dylanwadu ar ddeiliannau cadarnhaol i blant a’u teuluoedd. Maent yn cynnwys:
- Gofal plant rhan amser, o ansawdd, wedi ei ariannu i blant 2–3 oed
- Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a Bydwreigiaeth Estynedig (0-4 oed)
- Mynediad at gymorth magu plant. (0-4 oed)
- Cefnogaeth gyda datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu (0-4 oed)
Mae mwy o wybodaeth am Rhaglen Dechrau’n Deg ar gael ar wefan GGiD Torfaen.
Hawl i Blant 3 a 4 oed Gael Addysg y Blynyddoedd Cynnar
Mae gan bob plentyn 3 a 4 oed hawl i o leiaf 10 awr o addysg feithrin Cyfnod Sylfaen (Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar) bob wythnos, o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Mae hyn ar gael i bob un sy’n rhiant ac yn ofalwr i blant 3 a 4 oed yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth am yr Hawl i Blant 3 a 4 oed Gael Addysg y Blynyddoedd Cynnar ar gael ar wefan y GGiD.
Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
Mae Cynnig Gofal Plant i Gymru, gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gall y rhan fwyaf o rieni sydd â phlant 3 i 4 oed, ac yn gweithio, hawlio arian tuag at gostau gofal plant. Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru i rieni sy’n gymwys.
Mae'r 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos a hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant.
Mae mwy o wybodaeth am Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ar gael yma.
Gyrfaoedd yn y maes Gofal Plant
Ydych chi'n angerddol am lunio bywydau plant a chael effaith gadarnhaol arnyn nhw a'u teuluoedd?
Beth am gymryd y camau cyntaf ar daith i yrfa werth chweil gyda chyfleoedd diddiwedd i dyfu a datblygu.
Mae mwy o wybodaeth am Ddewis Gyrfa yn y maes Gofal Plant ar gael ar wefan GGiD Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Nôl i’r Brig