Chwarae a Chynhwysiant
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi bod yn darparu cefnogaeth chwarae cynhwysol i blant ag anableddau ers dros 20 mlynedd, gan ddarparu ar gyfer anghenion unigol tua 200 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn. Mae'r model cymorth hwn yn galluogi mynediad at gyfleoedd chwarae rheolaidd, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau, gan gwmpasu amrywiaeth eang o anableddau, ymddygiadau ac anghenion iechyd.
Mae plant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r sesiynau chwarae yn profi manteision cynnal trefn arferol, meithrin sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, ochr yn ochr ag ymdeimlad o hapusrwydd a diogelwch. Mae'r sesiynau hyn yn cynnig amgylchedd diogel a chyfleoedd i fagu hyder a mwynhau, gan gynorthwyo plant sy'n cael trafferth gyda newidiadau i’r drefn arferol.
Mae'r plant a'r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae amrywiol, gan feithrin annibyniaeth a sgiliau cyfathrebu nad ydynt ar gael yn aml yn eu cartref, wrth ryngweithio â chyfoedion mewn lle diogel a phleserus. Mae teuluoedd, yn eu tro, yn cael rhyddhad a chefnogaeth, gan alluogi rhieni a gofalwyr i gael seibiant mawr ei angen, amser gyda phlant eraill a chynnal cyflogaeth a rhoi sylw i gyfrifoldebau eraill.
Derbynnir ceisiadau am gymorth 1-1 o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, ysgolion, gofal cymdeithasol, ac asiantaethau trydydd sector, gyda ffurflen atgyfeirio yn cynorthwyo pennu'r lefel o gefnogaeth y mae ei hangen a lleoliad addas.
Mae panel amlasiantaethol, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau, yn dod ynghyd pob blwyddyn ym mis Mai i drafod dyraniadau cymorth chwarae ar gyfer yr haf, gan sicrhau bod lleoliadau a lefelau cymorth priodol yn cael eu nodi. Mae'r dull cydweithredol hwn yn caniatáu pecynnau cymorth mewn categorïau i ddiwallu anghenion penodol pob plentyn.
Mae amrywiaeth o gymorth ychwanegol ar gael i blant a phobl ifanc fynychu.
- Cymorth Ychwanegol i Blant a Phobl Ifanc 5 – 11 oed ag Anableddau ac Anghenion Ymddygiadol
- Cymorth ychwanegol i Blant rhwng 12 a 17 oed ag Anghenion Cymhleth ac Anableddau Dwys
- Cymorth Wythnosol a Gwyliau i Blant a Phobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal
- Cymorth Wythnosol a Gwyliau i Ofalwyr Ifanc
- Sesiynau Chwarae a Seibiant yn ystod Penwythnosau a Gwyliau
- Clwb Chwarae a Chynhwysiant Wythnosol
- Canolfan Asesu Chwarae
- Llogi Ystafell Synhwyraidd (Yn dod yn fuan)
Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Nôl i’r Brig