Cymorth i Bobl Ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Bob blwyddyn mae nifer o bobl ifanc yn gadael yr ysgol ac nid ydynt yn symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant felly cyfeirir at yr unigolion hyn fel NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a / neu hyfforddiant). Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r Awdurdod Lleol, ynghyd ag asiantaethau sy'n bartneriaid, wedi gweithredu nifer o brosesau i ganfod pobl ifanc sydd mewn perygl o syrthio i'r categori hwn, a rhoi'r cymorth i'w helpu i symud ymlaen i gyrchfan cadarnhaol ar ôl gadael yr ysgol.
Grŵp Llwybrau Cadarnhaol
Mae'r Grŵp Llwybrau Cadarnhaol wedi cael ei greu i weithredu dulliau effeithiol o gefnogi pobl ifanc i mewn i ymgysylltu parhaus, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae'r Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn manylu ar sut y mae'r Grŵp Llwybrau Cadarnhaol yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc ac yn seilio ei weithredoedd o gwmpas chwe elfen gydrannol Fframwaith Dilyniant Ymgysylltu â Datblygu Ieuenctid, Llywodraeth Cymru:
- nodi’r bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio
- boceru a chydlynu’r cymorth ar eu cyfer yn well
- tracio a symud pobl ifanc drwy’r system yn fwy effeithiol
- sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc
- cryfhau sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd am waith
- rhoi mwy o atebolrwydd er mwyn cyflawni deilliannau gwell i bobl ifanc.
Grŵp KIT
Grŵp gweithredol aml asiantaeth yw Grŵp KIT sy’n gweithio gyda’r Grŵp Llwybrau Cadarnhaol gan ymateb i anghenion unigol pobl ifanc sy’n NEET neu mewn perygl o fod yn NEET. Eir ati i ymyrryd er mwyn ymgysylltu â pherson ifanc a chynigir darpariaeth briodol i gefnogi’r person ifanc sydd wedi ymddieithrio i ddychwelyd i fyd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Ysbrydoli i Lwyddo / Ysbrydoli i Waith
Mae Ysbrydoli yn Brosiect gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd sy’n rhoi cefnogaeth i bobl nad sydd mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant neu sydd mewn perygl o ddatgysylltu o addysg
Mae tîm Ysbrydoli i Waith yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc 16-24 oed nad sydd ar hyn o bryd mewn addysg, gwaith na hyfforddiant ac sy’n byw yn Nhorfaen mewn ardaloedd nad sy’n Ardal Cymunedau’n Gyntaf; gan eu cefnogi tuag at waith.
Mae tîm Ysbrydoli i Lwyddo’n cefnogi pobl ifanc sy’n bennaf yn 11-16 oed mewn Ysgolion Uwchradd ar draws Torfaen, ac sydd mewn perygl o ddatgysylltu o addysg a/neu fod nid mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant.
Mae staff yn y ddau dîm yn gweithio 1:1 gyda phobl ifanc ac yn darparu cefnogaeth benodol ar sail anghenion er mwyn rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl i fynd ymlaen i addysg, gwaith a hyfforddiant.
Am fwy o wybodaeth ar amrywiaeth y gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch ag aelod o dimau YiL neu YiW ar 01495 766908 neu e-bostiwch inspire2@torfaen.gov.uk. Twitter /Facebook @inspire2torfaen
Cymunedau i Waith (CiW)
I bobl ifanc 16-24 oed nad sydd mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant ac sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yn Nhorfaen, mae’r tîm Cymunedau i Waith (CiW) yn darparu cefnogaeth debyg ar sail anghenion i bobl ifanc i fynd tuag at ac i mewn i addysg, gwaith neu hyfforddiant.
I gysylltu â thîm CiW cysylltwch â Victoria Dyer ar 01495 762131; neu victoria.dyer@torfaen.gov.uk
Offer Mapio Darpariaeth Gwasanaeth NEET
Crëwyd y System Haen ganlynol i gefnogi gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc fel ei gilydd, a hynny er mwyn iddynt gael mynediad hawdd i'r ddarpariaeth briodol sy'n addas i'w hanghenion. Mae'r system yn cael ei defnyddio'n eang ledled Cymru ac mae'n cael ei chyfri fel enghraifft o arfer da.
Yma, mae cyswllt i offer mapio darpariaeth y gwasanaeth. Mae’r offer mapio yn dangos y ddarpariaeth a gynigir yn Nhorfaen ac mae’n cynnwys gwybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a’r manylion cyswllt.
Bydd y cyfeiriadur yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol ym mis Rhagfyr i ddangos unrhyw newidiadau yn y gwasanaeth a ddarperir.
NEET Service Provision Mapping Tool
Haen | Diffiniad | Enghreifftiau o Ddarparwyr gwasanaethau o fewn yr haen | Disgrifiad |
5
|
Pobl ifanc mewn addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant
|
Ysgolion, Colegau AB a darparwyr dysgu seiliedig ar waith.
|
Mae'r garfan hon yn gyffredinol yn setlo yn Haen 5 heb faterion arwyddocaol ac nid yw'n dangos arwyddion o roi'r gorau iddi. Cymorth ar gael o hyd ar gyfer cynllunio pontio, e.e. gan Yrfa Cymru, ond gyda'r darparwr y mae'r prif gyfrifoldeb.
|
4
|
Pobl ifanc sydd mewn perygl o adael Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant
|
Ysgolion, Colegau AB a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Tîm YDI, Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr mewn Colegau AB, timau bugeiliol mewn ysgolion, Hyfforddwyr Dysgu.
|
Dysgwyr sy'n dangos arwyddion o roi'r gorau iddi ac yn cael eu cyfeirio am gymorth gan amrywiaeth o wasanaethau i atal ymddieithrio, gan gynnwys Gyrfa Cymru.
|
3
|
Cymorth, cyngor a chyfarwyddyd ychwanegol ar Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant
|
Pobl Ifanc 16/17 oed – Gwasanaeth Gyrfaoedd
18+ - JCP
|
Asiantaethau â’r dasg o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd mewn perthynas ag Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant
|
2
|
Ymgysylltiad a chymorth dwys
|
Gwasanaeth Ieuenctid, Tîm YDI, Hyfforddwyr Dysgu, Gwasanaeth Cefnogi Pobl Ifanc Torfaen, y Sector Gwirfoddol, prosiectau CGGC (tan ddiwedd Mehefin)
|
Pwyslais ar symud pobl ifanc o ” beidio ag ymgysylltu” i “barod i ymgysylltu” a chyfeirio am gymorth Haen 3.
|
1
|
Statws Anhysbys
|
Gwasanaeth Ieuenctid, Tîm YDI, Prosiectau CGGC
|
Ar hyn o bryd mae llawer o asiantaethau yn ceisio ymgysylltu â'r garfan hon, ond heb fawr o gydlynu. Bydd Gyrfa Cymru yn ceisio ymgysylltu Haen 1, ond byddai gwell cydlynu gwaith gyda'r Haen yn galluogi Gyrfa Cymru i ganolbwyntio ar ymyrraeth yn Haen 3.
|
Diwygiwyd Diwethaf: 06/03/2019
Nôl i’r Brig