Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD)

Adolygiad o amgylchiadau sy'n arwain at farwolaeth person 16 oed neu hŷn o ganlyniad trais, camdriniaeth neu esgeulustod  yw Adolygiad Dynladdiad Domestig.

Ei bwrpas yw canfod pa wersi sydd yw dysgu gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau sy'n gweithio i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig.

Os penderfynir bod angen cynnal Adolygiad Dynladdiad Domestig, bydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn penodi Cadeirydd Annibynnol ar gyfer y Panel Adolygu a byddant yn cysylltu ag aelodau o’r teulu a ffrindiau'r ymadawedig i'w tywys drwy'r broses.

Mae cefnogaeth i deuluoedd yn cael ei ddarparu drwy Cymorth i Ddioddefwyr

Unwaith y bydd adolygiadau wedi'u cwblhau a’r Swyddfa Gartref yn cytuno arnynt, byddant yn cael eu cyhoeddi a’u rhoi ar wefan y Swyddfa Gartref.

Nid yw Adolygiadau Dynladdiad Domestig yn cael eu cynnal yn lle cwest neu unrhyw fath arall o ymchwiliad i’r dynladdiad, ond maent yn ategu atynt.

Isod, gellir gweld adolygiadau a gwblhawyd yn Nhorfaen (os ydynt ar gael).

Diwygiwyd Diwethaf: 26/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus (UCGC)

Ffôn: 01495 766327

Nôl i’r Brig