Gostyngiadau'r dreth gyngor - prentisiaid a phobl ifanc dan hyfforddiant

Pwy sy'n brentis?

Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn brentis at ddibenion y dreth gyngor os ydynt yn:

  • Cael eu cyflogi i ddysgu crefft neu broffesiwn, ac yn
  • Dilyn rhaglen hyfforddi sy’n arwain at gymhwyster sy’n cael ei achredu gan gorff sy’n cael ei gydnabod gan Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) neu Gyngor Addysg Galwedigaethol yr Alban (SVEC), ac yn
  • Derbyn tâl o £195 neu lai yr wythnos, ond disgwylir iddynt gael eu talu’n fwy o lawer unwaith y byddant wedi cynhwyso.

Pwy sy’n berson ifanc dan hyfforddiant?

Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn berson ifanc dan hyfforddiant os ydyw:

  • Dan 25 oed, ac yn
  • Derbyn hyfforddiant drwy drefniadau (dan Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973) sy'n gynllun hyfforddi cymeradwy at ddibenion Adran 28, Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw pobl ifanc dan hyfforddiant na phrentisiaid yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn berson ifanc dan hyfforddiant neu brentis, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.

Os yw'r unig berson sy'n byw yn yr eiddo yn berson ifanc dan hyfforddiant neu’n brentis, bydd y bil 50% yn llai.

Dogfennau sydd eu hangen

Cyn gwneud cais am ostyngiad ar gyfer person ifanc dan hyfforddiant neu brentis, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • I brentisiaid:
    • datganiad o’ch statws Prentisiaeth gan eich cyflogwr.
    • prawf o enillion
  • I bobl ifanc dan hyfforddiant:
    • prawf o statws Person Ifanc dan hyfforddiant.

  Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - prentisiaid a phobl ifanc dan hyfforddiant

Diwygiwyd Diwethaf: 30/10/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig