Gostyngiad yn y dreth gyngor
Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor os oes gennych incwm isel, os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, neu'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:  
- Cymhorthdal Incwm 
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
- Yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
- Gallwch lenwi ein ffurflen fer i hawlio eich gostyngiad yn y dreth gyngor
Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych chi neu gymar gynilion, buddsoddiadau neu eiddo gwerth mwy na £16,000. 
 
 Gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor (seiliedig ar incwm) – Trigolion Torfaen
 Gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor (seiliedig ar incwm) – Trigolion Sir Fynwy
 
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i benefitapplication@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 0300 456 3559.
 Diwygiwyd Diwethaf: 12/09/2025 
 Nôl i’r Brig