Gwasanaeth Cymorth a Gwybodaeth ar Iechyd a Lles
Mae Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Torfaen yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth ar iechyd a lles sy'n darparu:
- Taflenni ac adnoddau eraill
- Llyfrau a CDd clywedol i’w benthyg
- Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
- Sesiynau rhannu darllen a darllen un i un
Anelwn i ddarparu ffynhonnell gymorth, drwy helpu gyda’r holl bethau y mae pobl eu hangen a’u heisiau i deimlo’r gorau y gallant.
P'un a oes gennych ymholiad am gyfleusterau iechyd lleol (Gwasanaethau GIG lleol, grwpiau cleifion), neu faterion iechyd (cyflyrau, triniaethau, cymorth a chefnogaeth leol) neu os ydych chi am fwyta'n fwy iach neu roi'r gorau i ysmygu, gallwn ni helpu.
Nid oes rhaid i'ch ymholiad fod amdanoch chi, efallai eich bod chi'n gofalu neu efallai bod gennych chi bryderon am berthynas neu ffrind.
Os oes angen:
- Rhywun i siarad ag ef
- Help i ddod o hyd i wybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, a'i deall
- Cael eich cyfeirio at sefydliadau eraill
- Ymwybyddiaeth o grwpiau cymorth lleol
- Mynediad dan arweiniad i adnoddau TG a safleoedd rhyngrwyd
... mae ein gwasanaeth ar eich cyfer chi!
Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Nôl i’r Brig