Urddas Mislif Torfaen - Eitemau Mislif Am Ddim

Gallwch gael yr eitemau canlynol ar gyfer eich mislif am ddim o sawl lleoliad yn Nhorfaen:

  • Tamponau
  • Padiau
  • Cwpanau mislif
  • Pants mislif

Gallwch eu casglu o’r mannau canlynol:

  • Canolfannau Gofal Cwsmeriaid ym Mlaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân
  • Banciau bwyd, meithrinfeydd a grwpiau chwarae a grwpiau cymunedol lleol
  • Mae gan ysgolion gyflenwad ar gyfer disgyblion a theuluoedd sydd â’u hangen hefyd

Os ydych chi'n gwybod am ysgol, grŵp cymunedol neu elusen a hoffai ddarparu eitemau am ddim, cysylltwch â jessica.gabriel@torfaen.gov.uk

Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r cyllid yn rhan o'i hymgyrch Balch o’r Mislif Cymru.

Mae cefnogaeth ar gael i ferched a phobl ifanc sy'n cael mislif hefyd gan Mislif Fi Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig