Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD)
Adolygiad o amgylchiadau sy'n arwain at farwolaeth person 16 oed neu hŷn o ganlyniad trais, camdriniaeth neu esgeulustod yw Adolygiad Dynladdiad Domestig.
Ei bwrpas yw canfod pa wersi sydd yw dysgu gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau sy'n gweithio i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig.
Os penderfynir bod angen cynnal Adolygiad Dynladdiad Domestig, bydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn penodi Cadeirydd Annibynnol ar gyfer y Panel Adolygu a byddant yn cysylltu ag aelodau o’r teulu a ffrindiau'r ymadawedig i'w tywys drwy'r broses.
Mae cefnogaeth i deuluoedd yn cael ei ddarparu drwy Cymorth i Ddioddefwyr
Unwaith y bydd adolygiadau wedi'u cwblhau a’r Swyddfa Gartref yn cytuno arnynt, byddant yn cael eu cyhoeddi a’u rhoi ar wefan y Swyddfa Gartref.
Nid yw Adolygiadau Dynladdiad Domestig yn cael eu cynnal yn lle cwest neu unrhyw fath arall o ymchwiliad i’r dynladdiad, ond maent yn ategu atynt.
Isod, gellir gweld adolygiadau a gwblhawyd yn Nhorfaen (os ydynt ar gael).
Diwygiwyd Diwethaf: 26/07/2024
Nôl i’r Brig