Sbardun Cymunedol
Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel unrhyw ymddygiad sy'n achosi aflonyddu, dychryn neu drallod. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus niweidio neu effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd rhywun arall. Bydd sbardunau cymunedol yn ei gwneud hi'n haws i ddioddefwyr a chymunedau atal yr ymddygiad hwn.
Eisoes ar waith yng Ngwent o 20 Hydref 2014, mae'r sbardun cymunedol yn rhoi'r hawl i ddioddefwyr a chymunedau fynnu bod ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn cael ei drin yn effeithiol gan yr amrywiol asiantaethau dan sylw. Mae'n ddarpariaeth newydd yn y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2014.
Y Sbardun Cymunedol – beth mae’n ei olygu?
Rôl y sbardun cymunedol yw rhoi cyfle i'r sawl sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ofyn am adolygiad o'r camau a gymerwyd gan asiantaethau pan fyddant yn teimlo nad yw'r camau hyn wedi bod yn ddigonol i ddatrys y broblem.
Nid yw'r sbardun cymunedol yn disodli'r gweithdrefnau cwynion mewnol sydd gan bob sefydliad, a fydd ar gael o hyd i ddelio ag unrhyw faterion a allai fod gan y dioddefwr / y sawl sy’n cwyno gydag un asiantaeth.
Yn y lle cyntaf, dylid rhoi gwybod i'r landlord cymdeithasol cofrestredig a/neu'r awdurdod lleol neu'r heddlu am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dylai'r sbardun cymunedol gael ei ystyried fel dewis olaf i'r sawl sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydynt yn credu na chymerwyd camau digonol i ddelio â'r digwyddiad a adroddwyd.
Mae'r sbardun cymunedol yn galluogi'r sawl sy'n dioddef yr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus i ofyn am adolygiad gan banel sy'n cynnwys uwch gynrychiolwyr awdurdod lleol, bwrdd iechyd lleol, yr heddlu a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (darparwr tai). Bydd y panel yn adolygu'r camau a gymerwyd hyd yma gan yr asiantaethau dan sylw a gall wneud argymhellion ynghylch y camau pellach y mae angen eu cymryd.
Pwy all weithredu Sbardun Cymunedol?
Gall pob un o'r canlynol gychwyn Sbardun Cymunedol:
- Pobl sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Rhywun sy'n cynrychioli dioddefwr, ar eu rhan (ee aelod o'r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, AS neu berson proffesiynol arall, pob un â chaniatâd y dioddefwr yn unig)
- Busnesau neu grŵp cymunedol.
Darperir cymorth i'r dioddefwyr hynny sydd angen cymorth ychwanegol.
Pryd gellir gweithredu sbardun cymunedol?
Gellir gweithredu sbardun cymunedol os yw'r dioddefwr wedi cwyno i awdurdod lleol, yr heddlu a / neu landlord cymdeithasol cofrestredig dair gwaith am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar wahân yn ystod y chwe mis diwethaf ac yn credu bod y camau a gymerwyd i ddatrys eu cwyn wedi bod yn annigonol.
Er mwyn i'r sbardun cymunedol gael ei weithredu, rhaid gwneud pob adroddiad cyn pen mis ar ôl i'r digwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd, a rhaid gwneud y tair cwyn o fewn chwe mis i'r gŵyn gyntaf. Mae tri ‘achos cymwys’ o’r fath yn bodloni'r trothwy i weithredu Sbardun Cymunedol.
Yn olaf, gellir gweithredu'r sbardun cymunedol os yw'r dioddefwr wedi cwyno i'r cyngor, yr heddlu a / neu landlord cymdeithasol cofrestredig am ddigwyddiadau casineb ar wahân yn ystod y chwe mis diwethaf, ac yn credu bod y camau a gymerwyd wedi bod yn annigonol. Digwyddiad casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol y dioddefwr yn ei ysgogi fwyaf.
Sylwch, ni ellir ystyried cais i weithredu'r Sbardun Cymunedol os canfyddir bod y gŵyn wreiddiol i sefydliad yn faleisus, yn niweidiol, yn ddi-sail, yn drosedd neu'n destun ymchwiliad sydd eisoes yn mynd rhagddo gan yr heddlu.
Sut gellir gweithredu sbardun cymunedol?
Os yw dioddefwr yn teimlo bod ei gwynion yn cwrdd â'r meini prawf y manylir arnynt uchod, mae sawl ffordd y gallant wneud cais i weithredu'r Sbardun Cymunedol, fel a ganlyn:
Beth all y sawl sy’n cwyno ei ddisgwyl nesaf?
Penderfyniad y panel fydd naill ai gwneud argymhellion i'r asiantaethau perthnasol i gymryd camau pellach, neu bydd yn cynnal y camau a gymerwyd gan yr asiantaethau hynny hyd yn hyn.
Un man cyswllt yr awdurdod lleol fydd y prif bwynt cyswllt trwy gydol y broses a bydd yn ysgrifennu at y sawl sy’n cwyno, i'w hysbysu pa raddfeydd amser y gallant eu disgwyl o ran ymateb. Mewn rhai achosion gellir darparu ymateb yn gyflym ond yn yr achosion mwy cymhleth sy'n cynnwys mwy o asiantaethau, gall hyn gymryd ychydig yn hirach.
Fodd bynnag, ni ddylai dioddefwr aros yn hwy na 10 diwrnod gwaith, o'r dyddiad y'i derbyniwyd, i glywed a yw eu cais wedi bodloni'r trothwy i'w drosglwyddo i ddwylo'r panel adolygu. Ni ddylai'r sawl sy’n cwyno aros mwy na 25 diwrnod gwaith i gael cadarnhad ysgrifenedig o'r penderfyniad a wnaed gan y panel adolygu. Bydd hyn naill ai'n cynnal y camau a gymerwyd gan asiantaethau hyd yn hyn, neu'n gwneud argymhellion i'r asiantaethau perthnasol gymryd camau pellach i ddatrys yr ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae'r dioddefwr wedi eu hwynebu.
Beth os yw'r sawl sy'n cwyno yn anfodlon â phenderfyniad y panel?
Os yw’r sawl sy’n cwyno yn anfodlon â’r:
- ffordd y cafodd y cais ei brosesu, neu
- y ffordd y cafodd yr adolygiad ei gynnal
Bydd proses apelio ar gael.
Y ceisiadau yr aethpwyd i'r afael â hwy o ran sbardunau cymunedol hyd yma hyd at Ebrill 2021
- Nifer y ceisiadau am Sbardunau Cymunedol a dderbyniwyd - 9
- Y nifer o weithiau na chyflawnwyd y trothwy ar gyfer adolygiad - 7
- Nifer yr adolygiadau achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a gynhaliwyd - 0
- Nifer yr adolygiadau achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a arweiniodd at wneud argymhellion - 0
Mae mwyafrif y ceisiadau yn cael eu datrys trwy ddull amlasiantaeth pan benderfynir bod asiantaethau unigol wedi gwneud cymaint ag y gallant, neu na chyflawnir trothwyon ar gyfer eu trosglwyddo i banel adolygu yn y broses Sbardun Cymunedol. Mae datrys problemau yn broses a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol, Heddlu Gwent a phartneriaid mewn sawl asiantaeth, i leihau'r niwsans a berir i drigolion. Gall y broses hon hefyd wneud argymhellion o ran gwelliannau i asiantaethau lle nodir hynny. Sylwch, ni allwn roi gwybodaeth a rennir wrth ddatrys problemau, felly ni ellir rhoi unrhyw fanylion sy'n deillio o'r cyfarfod i’r sawl sy’n cwyno. Fodd bynnag, gallwn egluro pa gamau a gymerir a bydd dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael gwybod am gamau'r bartneriaeth.
Cysylltwch â ni ar y rhif neu'r e-bost isod i gael mwy o wybodaeth ar sut i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag effeithio arnoch chi, eich teulu neu'ch cymdogaeth.
Diwygiwyd Diwethaf: 01/12/2022
Nôl i’r Brig