Allyriadau o adeiladau'r cyngor
Mae’r cyngor yn berchen ar dros 100 o adeiladau ac yn eu rhedeg.
Mae'r term datgarboneiddio yn golygu atal allyriadau carbon deuocsid i'r atmosffer.
Mae ein rhaglen datgarboneiddio yn canolbwyntio ar bedwar "Gweithred":
- Datgarboneiddio
- Trydaneiddio
- Effeithlonrwydd a
- Digideiddio
Mae'r pedair "Gweithred" dda yn gweithio ar y cyd i leihau allyriadau carbon a chostau gweithrediadau adeiladu yn gyffredinol.
Ers 2019/2020, mae allyriadau carbon o’n hadeiladau wedi gostwng 40 y cant.

Beth ydyn ni yn ei wneud?
- Rydym yn buddsoddi i wella’n hadeiladau yn cynnwys ein hysgolion er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol.
- Wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn 23/24 rydym wedi lleihau’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio ac arbed £374,000 ar ein biliau ynni.
- Yn 2024 fe wnaethom osod paneli solar ffotofoltaig ar 15 o adeiladau’r cyngor.
- Rydym wedi cefnogi Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i leihau eu biliau ynni drwy fuddsoddi mewn gwerth £700,000 o fesurau effeithlonrwydd ynni.
- Ym mis Rhagfyr 2024, cymeradwyodd y Cabinet rhaglen waith newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni a fydd yn golygu y bydd allyriadau carbon ein hadeiladau yn gostwng 10 y cant yn rhagor.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/02/2025
Nôl i’r Brig