Rhywogaethau estron goresgynnol
Mae llawer o rywogaethau estron yn ein hamgylchedd lleol.   
Nid yw rhai yn achosi niwed, ond gall eraill, y gelwir hwy’n rhywogaethau estron goresgynnol, fygwth bioamrywiaeth leol drwy drechu rhywogaethau brodorol a lledaenu clefydau.  
Mae pryder y bydd nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau estron yn y DU yn cynyddu oherwydd tywydd mwynach. 
Y rhywogaethau ymledol estron mwyaf cyffredin yn Nhorfaen yw llysiau’r dial a ffromlys, y mae’r ddau yn tyfu’n gyflym iawn ac yn cysgodi planhigion eraill.   
Mae rhywogaethau estron eraill yn cynnwys ceirch cochion, llawr-geirios a chreigafalau.   
Cyfrifoldeb perchennog y tir yw trin rhywogaethau estron goresgynnol neu cael rhywun i’w trin ar eu rhan.  
Mae angen chwistrellu llysiau’r dial neu chwistrellu'r coesau am gwpl o flynyddoedd a dim ond i safle trwyddedig y gellir ei symud. 
Mae'n drosedd plannu rhywogaethau estron goresgynnol yn y DU a gall arwain at gosb uchaf o £5,000 a chwe mis yn y carchar. 
Yr hyn yr ydym yn ei wneud 
- Mae gennym raglen i waredu ar lysiau’r dial ar dir y cyngor.
- Pan adroddir bod rywogaeth estron goresgynnol, rydym yn mynd ati i asesu’r rhywogaeth a dod o hyd i’r dechneg orau i waredu arno.
Sut y gallwch chi helpu
- Rhowch wybod am unrhyw rywogaethau estron goresgynnol trwy wefan Mapper INNS neu lawr lwythwch yr ap.  
- Ymunwch â gwirfoddolwr Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen sy’n cynnal sesiynau gwaredu ar ffromlys. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â kristen.thobroe@torfaen.gov.uk  
- Peidiwch â thipio gwastraff o’r gardd.  
Rhoi gwybd am broblem gyda llysiau’r dial
Gwybodaeth ddefnyddiol
 Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025 
 Nôl i’r Brig