Masnachu ym Marchnad Pont-y-pŵl

Rydyn ni’n chwilio am stondinwyr i ymuno â Marchnad Pont-y-pŵl. 

Rydyn ni ar agor 6 niwrnod yr wythnos, ac yn gweld tua 500 o siopwyr y dydd ar gyfartaledd, ac mae’r ffigwr hwn yn cynyddu gyda'n digwyddiadau arbennig rheolaidd yng nghanol y dref. 

Mae Parc enwog Pont-y-pŵl ar garreg ein drws ac mae'n denu tua 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn 2025, mae disgwyl i ddatblygiad ardal gaffi ac ardal ddiwylliannol newydd Pont-y-pŵl, gwerth £9.7m, i agor gyda'r nod o ddenu mwy o bobl i ganol y dref. 

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig 

  • Rhent o £33 yr wythnos + dim trethi busnes 
  • Stondinau hyblyg + cyfle i dyfu 
  • Gostyngiad o 30% am y 6 mis cyntaf 
  • Contract o 6 mis i ddechrau 
  • Ac yna contract misol sy’n mynd o fis i fis 
  • Cymorth busnes a marchnata am ddim 
  • Parcio am ddim gerllaw  
  • WiFi am ddim

I gael mwy o wybodaeth, cwblhewch Ffurflen Mynegi Diddordeb - Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl neu e-bostiwch Pontypoolindoormarket@torfaen.gov.uk 

Ymunwch â'n stondinwyr

Mae gennym amrywiaeth o stondinwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gwerthu bwyd ffres, melysion a danteithion ac anrhegion di-ri.

P'un a ydych chi'n chwilio am gyfle busnes newydd neu'n rhedeg busnes gartref ac yn barod i fynd ag ef i'r lefel nesaf, mae gennym stondin i chi.

Dyma pam mae ein stondinwyr hen a newydd wrth eu bodd ym Marchnad Pont-y-pŵl:

"Rydyn ni wedi bod ym Marchnad Pont-y-pŵl ers 1977. Mae ein cwsmeriaid wrth eu boddau â'r gwasanaeth personol maen nhw'n ei gael wrth siopa gyda ni. Dydy busnesau ddim yn sylweddoli faint o fuddion sydd 'na o fod yn y farchnad." Mel ac Ellen, Warren’s Wholefoods 

"Rydyn ni'n caru arddull yr adeilad oherwydd maen cyd-fynd â’n busnes. Mae fel cymuned yma, ac rydyn ni wedi gwneud llawer o ffrindiau." Natasha, Real Quirky Workshop 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Marchnad Dan do Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 742757

E-bost: pontypoolmarketmanager@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig