Trwydded Deliwr Metel Sgrap - Gwneud Cais am Drwydded
Trwydded Deliwr Metel Sgrap
Crynodeb o'r Rheoliad |
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon
|
Proses Gwerthuso Cais |
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- eu henw llawn
- cyfeiriad y deliwr neu, yn achos cwmni, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni
- cyfeiriad pob man sy'n cael ei feddiannu fel storfa ar gyfer metel sgrap, os o gwbl
- a yw'r busnes yn cael ei redeg heb storfa ar gyfer metel sgrap
- a yw'r busnes yn cael ei redeg heb storfa ar gyfer metel sgrap, ond mae'r ymgeisydd yn meddiannu man at ddibenion busnes, a chyfeiriad y lle hwnnw
Rhaid i'r deliwr cofrestredig roi gwybod i'r awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i'r manylion hyn neu os yw'n rhoi'r gorau i fod yn ddeliwr metel sgrap. |
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.
Sylwer, gallai gymryd mwy na 28 diwrnod i brosesu eich cais, ond bydd y rhan fwyaf o geisiadau'n cael eu cydnabod, eu prosesu a'u cwblhau o fewn y cyfnod hwn.
|
Gwneud cais ar-lein |
Os ydych yn dymuno cofrestru fel Deliwr Metel Sgrap, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais hyn.
Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi at y Tîm Iechyd y Cyhoedd, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, NP4 0LS
|
Y broses ymgeisio |
Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi er mwyn asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.
Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol, a gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol.
Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.
Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.
|
Ffïoedd Ymgeisio |
Mae'r ffi ar gyfer gwneud cais wedi'i rhestru ar ein Ffïoedd Trwyddedu yma
|
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus |
Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.
|
Cwynion gan Ddefnyddwyr |
Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
|
Camau Unioni Eraill |
Cysylltwch â'r Tîm Iechyd y Cyhoedd.
|
Cymdeithasau Masnach |
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 15/09/2022
Nôl i’r Brig