Deddf Hapchwarae 2005
Deddfwriaeth Hapchwarae
Cafodd y Ddeddf Hapchwarae sêl bendith y Senedd ym mis Ebrill 2005 ac fe gyflwynodd newidiadau mawr i'r ffordd y caiff hapchwarae ei drwyddedu ym Mhrydain Fawr. Roedd y Ddeddf yn sefydlu Comisiwn Hapchwarae i reoleiddio'r mathau o gyfleusterau hapchwarae a gynigir a'r bobl a'r sefydliadau sy'n eu cynnig.
Hefyd, rhoddodd bwerau newydd i awdurdodau trwyddedu sydd eisoes yn gyfrifol am roi Deddf Trwyddedu 2003 ar waith.
Mae Torfaen yn gyfrifol am fonitro a gorfodi'r holl Drwyddedau y mae'n eu cyflwyno, yn unol â'r tri Amcan Trwyddedu isod:-
- Atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu;
- Sicrhau bod hapchwarae yn cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored; a
- Diogelu plant a phobl eraill sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae.
Cyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu
Mae’n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn ei rôl fel yr Awdurdod Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005, baratoi a chyhoeddi datganiad o’r egwyddorion y mae’n bwriadu eu defnyddio wrth arfer ei swyddogaethau dan y Ddeddf yn ystod pob cyfnod olynol o dair blynedd, yn ystod y cyfnod hwnnw.
Hysbysir drwy hyn, ar 22 Hydref 2024, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, drwy arfer ei bwerau o dan Ddeddf Gamblo 2005, wedi cymeradwyo'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu. Y dyddiad cyhoeddi yw 16 Rhagfyr 2024 a bydd yn dod i rym ar 31 Ionawr 2025.
Bydd y Datganiad o Bolisi Trwyddedu i'w weld yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB o’r dyddiad cyhoeddi, a hynny rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ecsbloetio Plant yn Rhywiol - Adnabod yr arwyddion
Er mwyn helpu i gadw plant yn ddiogel mae Heddlu Gwent unwaith eto yn annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus am y math hwn o droseddoldeb, ac i gysylltu â hwy drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt. Er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd adnabod arwyddion camfanteisio a cham-drin mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi tudalen ar y we.
Byddai'n well gan yr Heddlu glywed gan aelodau o'r cyhoedd sy'n rhoi gwybod am faterion nad ydynt yn achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant yn y pen draw, yn hytrach na pheidio cael eu galw o gwbl.
Gwybodaeth am Ffïoedd
Mae rhestr o Ffïoedd Trwyddedu ar gyfer trwyddedau yn Nhorfaen ar gael yma.
Gwybodaeth i'r cyhoedd ac i fusnesau
Mae'r Comisiwn Gamblo wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol:
Canllawiau Penodol ar gyfer y Sector
Tafarndai, Clybiau a safleoedd Didrwydded
Amodau a Chodau Ymarfer
Gwneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau a dogfennau perthnasol drwy e-bost ar licensing@torfaen.gov.uk.
Rhaid cwblhau pob cais yn llawn a chynnwys rhif ffôn cyswllt. Unwaith y derbynnir y cais, cysylltir â'r ymgeisydd i drefnu taliad. Sylwch na fydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn ddilys hyd nes y derbynnir y taliad. Os oes angen cyflwyno cais wyneb yn wyneb, cysylltwch â'r tîm i drefnu apwyntiad.
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen ar y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2025
Nôl i’r Brig