Casgliadau o Dŷ i Dŷ - Gwneud Cais am Drwydded
Casgliadau o Dŷ i Dŷ
| Crynodeb o'r Drwydded | Er mwyn cynnal casgliadau o dŷ i dŷ at ddibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen briodol yr awdurdod lleol.   Rhaid eich bod yn unigolyn addas a phriodol. | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon    Rheoliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Nid oes darpariaeth yn y ddeddfwriaeth. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. | 
|---|
| Gwneud cais ar-lein | Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded casgliadau o dŷ i dŷ neu newid manylion trwydded sy'n bodoli eisoes, ewch i gov.uk. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.   Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet.   Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y gwrthodiad. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.   Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet.   Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach | Dim | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 22/02/2022 
 Nôl i’r Brig