Tir ac Eiddo'r Cyngor - Gwerthu a Rhentu
O bryd i'w gilydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rhoi tir ac eiddo ar y farchnad er mwyn eu gwerthu. Mae gennym eiddo masnachol ar gael i'w rhentu ledled Torfaen hefyd.
Mae rhestr o'r dir ac eiddo sydd ar werth, tir ac eiddo i’w osod ac eiddo i'w rhentu ar gael yma. I gael manylion pellach cysylltwch naill ai â’n hasiant neu’r Tîm Rheoli Asedau fel y bo’n briodol.
Erbyn hyn, mae'n bolisi gan y Cyngor i gyhoeddi gwarediadau arfaethedig hyd yn oed mewn achosion lle credwn nad oes marchnad gyffredinol ar gyfer eiddo. Gallwch weld rhestr o'r achosion cyfredol lle mae telerau wedi cael eu cytuno yn amodol ar gontract yma. Er nad yw'r eiddo yn cael eu marchnata i'r cyhoedd, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Rheoli Asedau os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r trafodion arfaethedig a restrir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tir neu eiddo nad ydynt yn cael eu marchnata ar hyn o bryd, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Asedau.
Diwygiwyd Diwethaf: 19/11/2020
Nôl i’r Brig