Casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu masnachol
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar fusnesau i waredu gwastraff mewn ffordd gyfrifol – rhaid iddynt ddefnyddio cwmni cludo gwastraff cofrestredig i waredu eu gwastraff a rhaid bod ganddynt y dogfennau i ddangos beth yw’r trefniadau sydd ar waith ganddynt ar gyfer gwaredu gwastraff.
Wrth ddefnyddio cludydd gwastraff, mae gennych ddyletswydd gofal i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei gymryd a’i waredu mewn ffordd gyfrifol. Er mwyn sicrhau nad yw’ch gwastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, gwiriwch fod eich cludydd gwastraff wedi'i gofrestru trwy glicio ar y ddolen i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n well bod yn ddiogel na difaru. Os ceir hyd i’ch gwastraff chi wedi'i dipio’n anghyfreithlon, yna gallech chi fod mewn trafferth difrifol a wynebu erlyniad eich hun.
Mae Cyngor Torfaen yn darparu Gwasanaeth Casglu Gwastraff Masnach. Am wybodaeth, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu anfonwch neges e-bost i businessdirect@torfaen.gov.uk
O 6 Ebrill 2024, fe fydd Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Fe fydd yn golygu bod gofyn i bob safle annomestig wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth wastraff arall.
Bwriad hyn yw gwella ansawdd gwastraff masnach sy’n gallu cael ei ailgylchu sy’n cael ei gasglu a’i ddidoli ledled Cymru, a faint ohono sy’n cael ei ailgylchu.
Gofynion gwahanu
Mae’r rheolau newydd hyn yn berthnasol i bob busnes ac i’r sectorau cyhoeddus ac elusennol. Rhaid i chi sicrhau bod pob un o’r canlynol yn cael eu gwahanu cyn iddynt gael eu gasglu:
- gwastraff bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy’n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd bob wythnos
- papur a cherdyn
- gwydr
- caniau metel
- poteli plastig
- cartonau a phecynnau tebyg eraill
- cyfarpar trydanol ac electronig bach sydd heb eu gwerthu
- tecstilau sydd heb eu gwerthu
Meddianwyr eiddo fydd yn gyfrifol am gydymffurfio â’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gorfodi’r rheoliadau a gallai meddianwyr wynebu dirwyon o hyd at £300 am bob trosedd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gall cwsmeriaid gwastraff masnach Cyngor Torfaen gael cyngor gan y tîm trwy gysylltu â BusinessRecycling@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024
Nôl i’r Brig