Cael Tystysgrifau
Sut ydw i’n cael copi o dystysgrif?
Mae Gwasanaeth Cofrestru Torfaen yn cadw cofnodion o'r holl enedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a gofrestrwyd yn yr ardal rhwng Gorffennaf 1837 hyd heddiw.
O ran digwyddiadau nad ydynt wedi'u cofrestru yn ardal Torfaen bydd angen i chi wneud cais am gopi o dystysgrif gan y Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y digwyddiad.
I gael gwybodaeth am Swyddfeydd Cofrestru eraill ledled Cymru a Lloegr, ewch i www.gov.uk.
Pwy all wneud cais am gopi o dystysgrif?
Mae gan unrhyw un a all adnabod y cofnod yn y gofrestr hawl i wneud cais am gopi o dystysgrif.
Mae adnabod cofnod yn golygu gwybod y manylion perthnasol a fydd yn ymddangos ar y dystysgrif.
O ran cofnodion geni, gofynnwn i'r sawl sy’n gwneud cais ddarparu'r:
- enw llawn ar y dystysgrif
- dyddiad a man geni
- enw llawn y fam ac enw’r fam cyn iddi briodi (os yw hyn yn berthnasol)
- enw llawn y tad/rhieni
O ran cofnodion marwolaeth, gofynnwn i’r sawl sy’n gwneud cais ddarparu:
- enw llawn yr ymadawedig
- dyddiad a man lle y buodd farw
- enw llawn y priod/cymar (os yw hynny’n berthnasol)
O ran tystysgrifau priodas/partneriaethau sifil, gofynnwn i’r sawl sy’n gwneud cais ddarparu:
- enwau llawn y ddau barti
- unrhyw gyfenwau eraill a ddefnyddiwyd
- dyddiad a lleoliad y briodas/seremoni (hy enw’r lleoliad, eglwys ac ati)
Faint mae tystysgrif yn ei gostio?
Cost tystysgrif geni, priodas, marwolaeth ar lein yw £12.50.
Gall tystysgrifau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith a byddant yn cael eu dosbarthu yn y post 2ail ddosbarth. Bydd ceisiadau brys yn cael eu prosesu cyn pen 24 awr ar ôl eu derbyn ar gost o £38.50 y dystysgrif a chânt eu dosbarthu yn y post dosbarth 1af.
Sut ydw i’n gwneud cais am dystysgrif?
Gwneud cais ar lein
Gallwch wneud cais ar lein am gopi o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth:
Gwneud cais dros y ffôn
Gallwch wneud cais dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd. Cysylltwch ar 01495 742132.
Byddwn yn cymryd y wybodaeth berthnasol a manylion y cyfeiriad post.
Mwy o Wefannau Defnyddiol
Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol - I archebu Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth ac i lawr lwytho ffurflenni cais.
www.findmypast.co.uk - Ar y wefan hon fe welwch gopi cyfan o fynegeion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cymru a Lloegr rhwng 1837 a 2001. Mae'r delweddau hyn ar gael i'w chwilio am dâl. Bydd y wefan hon yn ddefnyddiol iawn i gwsmeriaid sydd eisoes yn gyfarwydd â'r mynegeion hyn ac sy'n dymuno cael cyfle i'w chwilio yn eu hamser eu hunain, heb orfod ymweld â Llyfrgell na Swyddfa Gofrestru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Family Research Link sydd wedi'i leoli yn Llundain.
Rootsweb - Mae 'FreeBMD' yn brosiect parhaus a'i nod yw trawsgrifio'r mynegai Cofrestru Sifil o Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau ar gyfer Cymru a Lloegr.
Family Search - Dyma wefan Eglwys y Mormoniaid, sydd â dolenni i'w holl gronfeydd data, gan gynnwys Cyfrifiad Prydain 1881 a'r Mynegai Achyddol Rhyngwladol o Fedyddiadau a Phriodasau.
Yr Archifau Gwladol - Dyma wefan yr Archifau Gwladol (y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus gynt) ac mae ganddi ddolenni i'w casgliadau yn y Ganolfan Cofnodion Teuluol a Kew (gan gynnwys catalog ar-lein manwl iawn).
Cyfrifiad 1901 - Dyma safle Cyfrifiad 1901 ar-lein.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/05/2024
Nôl i’r Brig