Mynwent Llwyncelyn

Lleoliad

Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân, Torfaen, NP44 7PF

Amserau agor

Gatiau’r fynwent

Bydd gatiau'r fynwent yn cael eu hagor a'u cau tua’r amserau canlynol: 

  • Yn ystod yr haf: agor 9am - cau 7pm
  • Pob amser arall: agor 9am - cau 5pm

Toiledau

  • Agor 9am - cau 5pm

Cyrraedd yno

Mae lleoedd i barcio ac mae mynediad i gerbydau

I gael gwybodaeth am lwybrau bysiau, rhowch glic ar Traveline Cymru 

Mae Gorsaf Reilffordd Cwmbrân tua 3 milltir i ffwrdd

Mae’r fynwent ger Camlas Mynwy ac Aberhonddu, ac mae’r llwybr tynnu yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 492

Gwybodaeth ychwanegol

Mae swyddfa Gwasanaeth y Fynwent ym Mynwent Llwyncelyn. Mae ar agor rhwng 8am a 4pm, dydd Llun i ddydd Iau, ac 8am i 3.30pm ar ddydd Gwener. Mae'r swyddfa ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Mae toiledau cyhoeddus ar gael. Mae’r amseroedd agor yr un fath â'r swyddfa.

Mae Mynwent Llwyncelyn yn cynnig yr opsiynau claddu canlynol: 

  • Beddau lawnt gyda charreg bedd
  • Beddau ag ymylon o’u cwmpas â cherrig coffa
  • Claddu lludw yn dilyn amlosgiad
  • Ardal wedi’i neilltuo i fabanod
  • Claddedigaeth yn y ddôl

Mae ardal Claddu'r Ddôl ym mynwent Llwyncelyn yn rhan o'r Warchodfa Natur Leol ddynodedig, sydd â gwerth ecolegol uchel, felly ni chaniateir unrhyw gerrig coffa na blodau yn yr ardal hon.

Mae wal goffa a phlaciau gyda ffiolau y gellir eu prydlesu am 10 mlynedd. Cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent i gael mwy o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddfa Mynwent

Ffôn: 01495 766150

E-bost: cemeteryenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig