Proffiliau Cymunedol
Yma, gallwch weld data ar Gymunedau yn Nhorfaen, archwilio’r data a chreu map thematig yn seiliedig ar eich darganfyddiadau. Cliciwch yma i weld y Proffiliau Cymunedol yn Nhorfaen.
Esbonio Daearyddiaeth Cymunedau:
Fel rhan o Asesiad Lles Torfaen a gynhaliwyd yn 2016, roedd angen diffinio ffiniau cymunedol yn y fwrdeistref y gellir eu cymharu. Penderfynwyd bod Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG) yn ddigon bach i nodi anghydraddoldeb rhwng ardaloedd, ond yn ddigon mawr i gynrychioli ardaloedd cymunedol allweddol.
Mae ACEHG yn ddaearyddiaethau ystadegol y SYG lle mae'r boblogaeth rhwng 5,000 a 15,000 ac mae yna rhwng 2,000 a 6,000 o aelwydydd.
Mae hyn yn golygu y gellir cymharu ACEHG â'i gilydd yn ystadegol, yn wahanol i ddaearyddiaethau wardiau etholiadol lle gallai'r boblogaeth amrywio o lai na 100 i fwy na 30,000 mewn rhannau o'r DU. Mae gan Gymru 413 ACEHG, ac mae gan Dorfaen 13 ohonynt.
Dyma dabl sy'n croesgyfeirio'r cymunedau a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn, i roi gwell dealltwriaeth o'r ardaloedd sydd wedi'u lleoli yn y cymunedau a'r aneddiadau. Mae'r ardaloedd a ddangosir isod yn rhai bras a gallant ledaenu i ardaloedd cyfagos.
Torfaen MSOA meaningful names
| Setliad | Enw EGEHG | Lleoliadau | 
|---|
| Blaenafon | Blaenafon | Blaenafon | 
| Pont-y-pŵl | Gogledd Pont-y-pŵl | Abersychan, Cwmafon, Garndiffaith, Tal-y-waun, Varteg | 
| Canol Pont-y-pŵl | Pen-y-garn, Coed Llwyd, Sant Cadog, Trefddyn          | 
| Gorllewin Pont-y-pŵl | Brynwern, Cwm Fields, Cwm-ynys-cou, Pontnewynydd, Pont-y-moel, Canol tref Pont-y-pŵl, Tranch, Trosnant, Upper Race, Waunfelin | 
| Dwyrain Pont-y-pŵl | Y Dafarn Newydd | 
| De Pont-y-pŵl | Tref Gruffydd, Sebastopol | 
| Cwmbrân | Gogledd Cwmbrân | Lowlands, Pentre Uchaf, Pontnewydd, Pontrhydyrun Cwmbrân Uchaf | 
| Dwyrain Cwmbrân | Croesyceiliog, Gogledd Llanyrafon | 
| Gogledd-orllewin Cwmbrân | Dwyrain y Ddôl Werdd, Pontnewydd, Gorllewin Bryn Eithin, | 
| Canol Cwmbrân | Hen Gwmbrân, Pentre Isaf, Sain Derfel | 
| Gorllewin Cwmbrân | Gorllewin y Ddôl Werdd, Fairwater | 
| De-orllewin Cwmbrân | Coed Efa, Henllys, Dwy Loc, Tŷ Canol | 
| De-ddwyrain Cwmbrân | Canol tref Cwmbrân, Llanfrechfa, Llantarnam, De Llanyrafon, Cae Derw, Phonthir | 
 Diwygiwyd Diwethaf: 19/05/2023 
 Nôl i’r Brig