Prif Weithredwr a Phrif Weithredwr Cynorthwyol
Stephen Vickers yw’r Prif Weithredwr.
Mae Stephen yn gweithio yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl a gellir cysylltu ag e naill ai dros y ffôn ar 01495 762200 neu drwy e-bost, stephen.vickers@torfaen.gov.uk
Mae gan Stephen y cyfrifoldebau canlynol:
- Rhoi arweiniad, gweledigaeth a chyfeiriad strategol i staff y Cyngor a sicrhau bod y Cyngor wedi ei strwythuro, ei reoli a’i ariannu’n briodol er mwyn cyflenwi ei flaenoriaethau ac amcanion corfforaethol
- Cynllunio a hyrwyddo gwerthoedd y Cyngor – Teg, Cefnogol, Effeithiol ac Arloesol
- Rhoi cyngor lefel strategol i’r Cabinet ac Aelodau Etholedig ar strategaeth, gweledigaeth a pherfformiad y Cyngor, gan weithredu fel prif gynghorydd polisi’r Cyngor
- Arwain, datblygu a herio Tîm Arweinyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod ansawdd rheolaeth a gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynnal a’u datblygu, gyda chanolbwyntio ar y cwsmer
- Gweithredu fel llysgennad ar ran y Cyngor a’n cymunedau, gan gynrychioli eu buddiannau ar bob lefel
- Datblygu partneriaethau a pherthnasau cynhyrchiol ac effeithiol gydag unigolion a sefydliadau allanol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
- Gweithredu fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig statudol y Cyngor
Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adnoddau) yw Nigel Aurelius.
Mae Nigel yn gweithio yn y yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl a gellir cysylltu ag e naill ai dros y ffôn ar 01495 762200 neu drwy e-bost, nigel.aurelius@torfaen.gov.uk.
Mae Nigel yn cynorthwyo Stephen i gyflawni ei gyfrifoldebau fel Prif Weithredwr. Hefyd, mae Nigel yn cyflawni rôl statudol y Swyddog Adran 151 ac yn arwain cyflenwad y swyddogaethau corfforaethol a chefnogaeth ddemocrataidd canlynol:
- Adnoddau Dynol Strategol
- Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
- Gwasanaethau Trafodaethol AD
- Datblygiad Sefydliadol
- Rheolaeth Asedau
- Gwasanaethau Cymorth Busnes a Democratiaeth
- Gwasanaethau Gweinyddol a Busnes
- Gwasanaethau Ariannol
- Gweinyddiaeth Pensiynau a Buddsoddiad
- Archwilio Mewnol
- Refeniw, Budd-daliadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Caffael
- Archifau
Diwygiwyd Diwethaf: 30/07/2021
Nôl i’r Brig