Wedi ei bostio ar  Dydd Mercher 8 Hydref 2025
		
Mae newidiadau yn cael eu gwneud i reolau trwyddedau faniau'r Ganolfan Ailgylchu Cartref i helpu i wella cyfraddau ailgylchu ar y safle.
O Dachwedd 1, bydd gyrwyr faniau sydd â thrwyddedau yn gallu mynd i'r safle rhwng 10am a 3pm, saith diwrnod eto, yn hytrach na dim ond rhwng 1.30pm a 2.30pm.
Bydd gyrwyr fan hefyd yn gallu gwneud cais am 12 trwydded y flwyddyn, yn hytrach na'r 10 presennol.
Mae newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i'r mathau o gerbydau sydd angen trwydded. Bydd angen trwyddedau ar y cerbydau canlynol nawr:
-  Faniau’n llai na 3.5 tunnell fetrig, 5m o hyd a 2.2m o uchder
-  Faniau’n deillio o geir, e.e
-  VW Caddy neu Ford Transit Connect
-  Faniau Cyfunol
-  Tryciau codi
-  Bysiau mini e.e
-  Mercedes Sprinter
-  Cerbydau â seddi cefn sydd wedi eu tynnu allan a/neu â ffenestri cefn neu ar yr ochr
-  Ceir gyda threlar llai na 1.8m o hyd
Ni chaniateir i'r cerbydau canlynol fynd i'r safle gyda thrwydded na heb drwydded:
-  Cerbydau dros 5m o hyd neu 2.2m o uchder.
-  Cerbydau dros 3.5 tunnell fetrig
-  Cerbydau masnachol
-  Cerbydau gwersylla sylfaen olwyn hir/mawr dros 5 metr o hyd
-  Cerbydau gwersylla sydd heb eu gosodiadau mewnol bellach
-  Tipwyr, cerbydau gwely gwastraff, bocs, cerbydau ceffylau, carafanau, cartrefi modur, tractorau
-  Ceir gyda threlar yn hirach na 1.8m
Dywedodd y Cyng.
Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd:
"Rydym wedi gweld mwy o bobl yn defnyddio'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, sydd wedi cynyddu costau ac sydd weithiau'n arwain at oedi ar adegau brig.
"Bydd y newidiadau i'r cynllun trwyddedau faniau’n ein gwneud yr un peth ag awdurdodau eraill ac yn lleihau camddefnydd o'r safle gan fasnachwyr.
"Dylai gwybodaeth newydd, mwy eglur helpu ein trigolion i wybod pa gerbydau sydd angen trwyddedau a byddan nhw nawr yn gallu mynd i'r safle am gyfnodau hirach."
Mae trwydded fan yn costio £10 a gellir gwneud cais amdanynt ar-lein neu drwy gysylltu â Galw Torfaen ar 01495 762200.
Mae'r gwelliannau yn dilyn cyflwyno gwiriadau newydd prawf cyfeiriad wrth fynedfa'r safle ar gyfer pob ymwelydd.
Mae trefniadau tebyg o ran trwyddedau ar waith yn rhan fwyaf yr awdurdodau lleol yng Nghymru.