Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Mai 2025

Photo provided by Rob Gale
Mae cannoedd o redwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer 10K Mic Morris Torfaen eleni.
Mae'r ras, sy'n enwog am fod yn un o'r cyflymaf yn y calendr rhedeg, yn denu rhedwyr o bob cwr, a bydd yn cael ei chynnal ddydd Sul, 13 Gorffennaf.
Bydd y rhedwyr yn cychwyn o Flaenafon am 9:00am a bydd disgwyl iddynt groesi'r llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl erbyn 11:00am.
Bydd pob un sy’n cymryd rhan yn derbyn medal a nwyddau am gymryd rhan yn y digwyddiad.
Bydd elw o'r ras yn cael ei roi i Gronfa Goffa Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris, er budd uniongyrchol i athletwyr ifanc uchelgeisiol yn Nhorfaen.
Cau Ffyrdd
Er mwyn sicrhau diogelwch rhedwyr, bydd y rhannau canlynol o'r ffordd ar gau ar yr amseroedd a restrir isod:
- Blaenafon i Abersychan (cyffordd yr A4043 a B4246): 8:00am - 10:00am
- Abersychan Old Road i Hospital Road: 9:00am – 10:30am
- Hospital Road i Park Road (Byddin yr Iachawdwriaeth): 9:15am – 10:45am
Bydd ffyrdd cefn yn parhau ar agor, ond ni chaniateir unrhyw gerbydau ar ffordd y ras yn ystod y digwyddiad. Bydd gan y gwasanaethau brys fynediad bob amser.
Dywedodd Ben Jeffries, Swyddog Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd yng Nghyngor Torfaen:
"P'un a ydych chi'n rhedwr profiadol, yn cadw'n heini, neu'n dechrau allan, dyma'ch cyfle i fod yn rhan o un o'r rasys cyflymaf sydd. Mae'r ras yn denu rhedwyr o bob cwr o'r byd - nid dim ond athletwyr clwb, ond pobl gyffredin sy'n cofleidio'r her..
"Eleni, rydym wedi gweithio i fyrhau cyfnod cau ffyrdd i leihau tarfu, a bydd swyddogion wrth law ar hyd y ffordd i gynorthwyo trigolion a sicrhau diogelwch pawb. Bydd ffyrdd yn ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth i helpu i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant!"
Bydd gwybodaeth am y digwyddiad yn cael ei bostio at drigolion sy'n byw ar yr heolydd yr effeithir arnynt, gyda phob rhan o'r llwybr yn ailagor cyn gynted â phosibl.
Os yw'r cau ffyrdd yn effeithio ar unrhyw deithio allweddol fel apwyntiadau ysbyty, gwyliau neu gyfrifoldebau gofal, cysylltwch â Chyngor Torfaen ar 01633 628936 cyn gynted â phosibl.
I gofrestru neu i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i Mic Morris Torfaen 10K neu cysylltwch â: ben.jeffries@torfaen.gov.uk | ☎️ 01633 628936