Gwirfoddolwyr yn chwarae rôl a thorri record

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
Play volunteer awards 22

Diolch i bron i 200 o wirfoddolwyr am helpu i ddarparu 32,000 o oriau o hwyl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Neithiwr, cyflwynodd Gwasanaeth Chwarae Torfaen wobrau i dros 100 o wirfoddolwyr am eu gwaith. Ymhlith y gwobrau oedd Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Gwobr Ysbrydoliaeth Gymunedol, gwobrau i wirfoddolwyr yn ystod y tymor a gwyliau’r haf, a gwobrau i gynorthwywyr chwarae.

Mae tua 7,000 o blant a theuluoedd wedi manteisio ar ystod eang o gyfleoedd chwarae yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol, sesiynau chwarae a seibiant, prosiectau sy'n gysylltiedig ag ysgolion, a darpariaethau yn ystod gwyliau hanner tymor a’r haf.

Oscar Balkwill, 17 o Goed Eva gipiodd gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn am ei ymrwymiad i wirfoddoli yn ystod y tymor, adeg gwyliau’r haf a mewn sesiynau ar benwythnosau.

Dywedodd Oscar, sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r gwasanaeth ers dros 2 flynedd: 

"Rwy'n ddiolchgar am y wobr a'r clod. Diolch i'r staff cefnogol, mae gwirfoddoli dros y 2 flynedd ddiwethaf wedi fy helpu i dyfu, magu hyder, a meithrin sgiliau bywyd hanfodol. Rwyf hefyd wedi ennill profiad gwerthfawr ar gyfer fy nyheadau yn y dyfodol."

Cyflwynwyd y Wobr Ysbrydoliaeth Gymunedol i Shirley Mcdonald am ddarparu mwy na 700 o oriau gwirfoddol dros gyfnod o 10 mis i gefnogi plant ag anghenion cymhleth i chwarae.

Meddai Shirley, 46 , o Fryn Eithin,: “Rwy’n teimlo’n falch iawn, a braint oedd derbyn y wobr hon. Mae gwirfoddoli wedi helpu cymaint, gan roi strwythur, trefn ac amynedd imi; rhywbeth a ddaeth yn hollol annisgwyl.

"Mae treulio pob dydd gyda'r plant yn fendith go iawn. Maen nhw'n dod â llawenydd, p'un ai drwy dynnu llun a’i rhoi i mi, neu'n cael hwyl gyda gwên ar eu hwynebau. Nhw yw'r haul sy'n goleuo fy nyddiau."

Cyflwynwyd gwobrau eraill ar gyfer gwirfoddolwyr, prentisiaid a hyfforddeion a weithiodd yn ystod y tymor a thros yr haf. Derbyniodd gwirfoddolwyr dystysgrifau gan Gynghrair Wirfoddol Torfaen hefyd yn nodi nifer yr oriau gwirfoddol yr oeddent wedi'u cyflawni.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, a gyflwynodd dystysgrifau ar y noson: "Mae ein Gwasanaeth Chwarae yn enghraifft wych o sut y gall mentrau sy'n cael eu gyrru gan y gymuned, gyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad plant yn Nhorfaen.

"Drwy gynnig cyfleoedd chwarae amrywiol, rydym nid yn unig yn gwella bywydau plant a theuluoedd ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o gymuned a gwydnwch. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion ein cynllun sirol i rymuso cymunedau i fod yn iachach, wedi'u cysylltu'n well, ac yn fwy cyfartal."

Mae'r Gwasanaeth Chwarae nawr yn awyddus i recriwtio hyd yn oed mwy o weithwyr chwarae gwirfoddol a chynorthwywyr chwarae i gefnogi gyda'i raglenni chwarae sydd ar y gorwel yn ystod gwyliau hanner tymor a thros yr haf.

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r hwyl, gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Cyngor Torfaen -https://www.torfaen.gov.uk/en/EducationLearning/ChildrenandYoungPeople/PlayService/Volunteering/Volunteering.aspx.

I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o wirfoddoli a hyfforddiant sydd ar gael, anfonwch e-bost at andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 18/03/2025 Nôl i’r Brig