Estyniad Crownbridge i agor yn swyddogol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
Crownbridge extension to officially open

Bydd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Addysg Llywodraeth Cymru, yn agor yr estyniad yn swyddogol yn Ysgol Crownbridge ddydd Gwener 21 Mawrth

Mae'r seremoni yn nodi cwblhau'r buddsoddiad o £12.35 miliwn mewn estyniad 50 lle i Ysgol Crownbridge. 

Adeiladwyd yr estyniad ar safle'r ysgol bresennol yng Nghroesyceiliog a bydd yn helpu i ateb y galw cynyddol am addysg arbennig yn Nhorfaen.

Mae'r estyniad  wedi'i ariannu 75% gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Meddai Bethan Moore, Pennaeth Ysgol Crownbridge: "Mae estyniad newydd yr ysgol, a elwir yn 'Mynydd', yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth newydd, cegin y gall y disgyblion ei defnyddio, ystafell i gynnal cyrsiau, swyddfeydd, neuadd ac ystafell fownsio - sy'n drampolîn maint llawn ar lawr fydd yn galluogi disgyblion i dderbyn therapïau.

“Mae yna hefyd ardal gemau aml-ddefnydd newydd gydag ardaloedd chwarae a dysgu awyr agored. Mae'r offer awyr agored yn cynnwys rowndabowt sy’n addas i gadeiriau olwyn, rheilen gydbwyso a thrampolîn sydd wedi ei suddo.

“O ganlyniad, mae'r ysgol wedi gallu derbyn disgyblion newydd ac rydym yn gyffrous iawn i ddatblygu'r estyniad ymhellach yn ystod y flwyddyn. Mae wir yn gyfleuster o'r radd flaenaf i addysgu a meithrin ein plant ag anawsterau dysgu difrifol a dwys.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Diolch i ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i Dorfaen ac uchelgais y cyngor i wella ein hysgolion, rydym wedi cwblhau dros £90m o fuddsoddiadau yn ein hysgolion yn ystod band A. Mae hyn yn cynnwys adnewyddu ac adeiladu nifer o ysgolion newydd a Pharth Dysgu Torfaen drwy gefnogaeth y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy .

"Yr estyniad yn Ysgol Crownbridge yw’r cynllun cyntaf a gwblhawyd yn ein buddsoddiad Band B a fydd yn gwella ac yn ehangu amgylcheddau dysgu Torfaen ymhellach i'n pobl ifanc.  Yn Nhorfaen rydym wedi gweld twf sydyn yn y galw am leoedd mewn ysgolion arbennig a bydd yr estyniad yn galluogi 50 o blant eraill i gael eu haddysgu yn y cyfleusterau gwych yn Crownbridge. 

“Ar gyfer y flwyddyn nesaf rydym wedi darparu cynnydd ychwanegol o £6.7 miliwn i'r gyllideb ysgolion sy'n gynnydd o 8.6% ac yn dangos ein bod yn  blaenoriaethu addysg yn y fwrdeistref yn barhaus."

Bydd y seremoni agor yn dechrau am 12.15pm ddydd Gwener 21 Mawrth yn Ysgol Crownbridge, Turnpike Road, Croesyceiliog, Cwmbrân, NP44 2BJ.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/03/2025 Nôl i’r Brig