Digwyddiad i ddathlu atgofion ysgol gynradd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 17 Mawrth 2025

Mae noson agored yn cael ei chynnal yn Ysgol Gynradd Maendy fis nesaf ar gyfer cyn-ddisgyblion, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned.

Disgwylir i’r ysgol, a agorodd am y tro cyntaf ar ddiwedd y 1950au, gau eleni a bydd cyfleuster newydd gwerth £17.1 miliwn yn agor ar y safle ym Mhentre’ Uchaf, Cwmbrân, ym mis Mehefin.

Mae'r adeilad newydd, a fydd yn cynnwys ysgol gynradd gyda meithrinfa, Dechrau'n Deg a chyfleusterau gofal plant, canolfan adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol a chanolfan asesu, wedi cael ei ariannu gan Gyngor Torfaen a rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy  Llywodraeth Cymru.

Bydd ail faes chwarae, cae chwaraeon glaswelltog, ac adeilad cymunedol yn cael eu creu ar yr hen safle y flwyddyn nesaf. 

Cynhelir y noson agored ddydd Mercher 9 Ebrill, rhwng 3.30pm a 5:00pm, a bydd y gwesteion yn cael eu tywys o amgylch yr ysgol gan staff a disgyblion, gan gynnwys y Prif Fachgen a’r Brif Ferch.  

Dywedodd Emma Payne, Pennaeth: "Wrth i ni nesáu at ddyddiau olaf Ysgol Gynradd Maendy fel y mae heddiw, rydym am ddathlu'r hanes cyfoethog a'r atgofion annwyl a grëwyd o fewn y waliau hyn.

"I nodi'r garreg filltir hon, rydym yn edrych ymlaen yn arw at wahodd pawb i noson agored arbennig lle gall pobl fynd am dro am y tro olaf trwy'r coridorau, y cynteddau a'r ystafelloedd dosbarth cyn i ni symud i'r adeilad newydd.

"Dyma gyfle i fyfyrio ar y gorffennol a rhannu atgofion melys gyda staff, disgyblion, a'r gymuned ehangach. 

"Yn ogystal, rydym yn gwahodd pobl i gyfrannu at Arddangosfa Atgofion Maendy. Rydym yn croesawu lluniau, pethau cofiadwy, neu unrhyw eitemau sy'n cyfleu ysbryd Maendy dros y blynyddoedd, boed hynny fel disgybl, profiadau eich plentyn, neu ddigwyddiadau cymunedol."

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rwy'n edrych ymlaen at y noson agored a chwrdd â phobl  sydd wedi derbyn eu haddysg yn Ysgol Gynradd Maendy, ac edrychaf ymlaen at y cyfleoedd y bydd y cyfleuster newydd yn eu cynnig i ddisgyblion."

Os hoffech anfon eitem atom ar gyfer Arddangosfa Atgofion Maendy, dewch â nhw gyda chi neu anfonwch e-bost i Maendymemories@gmail.com erbyn dydd Mawrth 8 Ebrill.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2025 Nôl i’r Brig