Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 30 Mehefin 2025
Untitled design (44)

Bydd aelodau tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol y cyngor yn ymuno â Heddlu Gwent mewn digwyddiadau i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Bydd sefydliadau lleol sy’n gweithio i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn ymuno â nhw.

Nod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw amlygu effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gymunedau, fel ymdeimlad pobl o’u lles, cynnydd mewn costau i’r heddlu a busnesau lleol.

Dywedodd Catherine Jones, Arweinydd Diogelwch Cymunedol y cyngor: "Nid trosedd lefel isel yw ymddygiad gwrthgymdeithasol – gall gael effaith sylweddol ar y gymuned gyfan.

"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gyfle gwych i gymunedau ddod ynghyd i drafod yr achosion ac, yn bwysig, beth ellir ei wneud i’w leihau."

Bydd y tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda’i bartneriaid yn y digwyddiadau canlynol: 

* Digwyddiad i’r teulu yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Blaenafon ddydd Mawrth, Gorffennaf 1, 3pm-5.30pm

* Cymhorthfa amlasiantaeth, Neuadd y Mileniwm, Garndiffaith, Dydd Mercher, Gorffennaf 2, 11am-12pm, a Dydd Iau, Gorffennaf 3, 4pm-5pm

* Cymhorthfa amlasiantaeth, Neuadd Bentref Cwmafon, ddydd Mercher, Gorffennaf 2, 1pm-2pm

Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel unrhyw ymddygiad sy’n achosi aflonyddu, braw, neu ofid.

Os oes gyda chi bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, gallwch gysylltu â’r cyngor trwy 01495 762200.

Fel arall, gallwch ddweud am y mater wrth Heddlu Gwent trwy 111 neu, os ydych chi’n byw mewn cartref cymdeithasol, rhowch wybod i’ch landlord.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/06/2025 Nôl i’r Brig