Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 25 Mehefin 2025
Mae prif weithredwr y Cyngor, Stephen Vickers, wedi ymddiheuro am oedi i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y dyddiau diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Vickers fod staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod y gwasanaeth yn ôl i’r arfer cyn gynted â phosibl.
Meddai Mr Vickers: "Rydyn ni’n ymddiheuro i'n trigolion am oedi sylweddol i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y dyddiau diwethaf.
Mae yna sïon ar led fod staff gwastraff yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol, ond gallwn gadarnhau nad yw hyn yn wir.
Rydyn ni’n cydnabod bod cyfathrebu ac ymddiriedaeth rhwng rheolwyr gwastraff a staff wedi torri i lawr.
Rydyn ni’n gweithio'n actif i fynd i'r afael â'r materion hyn ac yn gweithio'n galed i sicrhau bod y gwasanaeth yn ôl i’r arfer cyn gynted â phosibl. Ond, ar y cam hwn, allwn ni ddim dweud pryd y bydd y tarfu yn dod i ben.
"Rydyn ni’n blaenoriaethu casgliadau biniau â chlawr porffor a chasgliadau ailgylchu gwastraff y cartref yn yr ardaloedd rydyn ni wedi'u colli. Er mwyn helpu gyda hyn, rydyn ni wedi penderfynu atal casgliadau gwastraff gwyrdd yr wythnos hon.
"Gofynnwn yn garedig i drigolion adael unrhyw gasgliadau a gollwyd allan, ac i beidio â rhoi eu biniau gwyrdd allan.
"Unwaith eto, rydyn ni’n ymddiheuro'n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra a achoswyd."
Mae'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd, yn gweithredu yn ôl yr arfer.