Tasglu canol y dref

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Mehefin 2025
Taskforce group

Mae tasglu wedi cael ei sefydlu i helpu i lunio dyfodol canol tref Pont-y-pŵl.

Ffurfiwyd y grŵp yn dilyn dau weithdy syniadau cymunedol yn gynharach eleni, gyda'r nod o adnabod ffyrdd o adfywio canol y dref.

Daeth mwy na 100 o bobl i’r digwyddiadau, a drefnwyd gan y Cyngor, lle cytunwyd y byddai tasglu yn cael ei ffurfio i helpu i yrru syniadau adfywio dan arweiniad y gymuned.

Ers hynny, mae Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl wedi cynnal tri chyfarfod ac wedi nodi eu prosiect cyntaf - gwella maes parcio Glan-yr-afon, ger pont y dref.

Mae'r grŵp wedi trefnu diwrnodau twtio i wirfoddolwyr, yn ogystal â nodi cyfleoedd i uwchraddio goleuadau a theledu cylch cyfyng.

Meddai’r cadeirydd a'r dyn busnes lleol sydd wedi ymddeol, Dyl Delaney: "Rydyn ni eisiau cymryd dyfodol canol tref Pont-y-pŵl i'n dwylo ein hunain, trwy weithio gyda'r gymuned leol i hyrwyddo menter a chryfhau cysylltiadau lleol – ar sail egwyddorion caredigrwydd, cydweithio a chyfrifoldeb amgylcheddol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae dyfodol canol ein trefi yn dibynnu ar ddull gweithredu ar y cyd rhwng trigolion lleol, busnesau a chyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol.

"Bydd y dull unedig hwn yn helpu i wneud canol tref Pont-y-pŵl yn lle sy'n lleoliad deniadol i fusnesau cynaliadwy ar y stryd fawr ac yn dod â chymunedau at ei gilydd."

Cynhaliwyd y Digwyddiadau Syniadau Cymunedol gan Cwmpas, asiantaeth ddatblygu gydweithredol sy'n helpu pobl i ddylanwadu ar siâp eu cymunedau eu hunain, ac fe'u hariannwyd gan grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â Thasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, neu ei gefnogi, anfon neges trwy e-bost i pontypooltaskforce@gmail.com.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/06/2025 Nôl i’r Brig