Cystadleuaeth newydd i ysgolion

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025
_NotInMissOut FACEBOOK post4

Mae disgyblion yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd i ddathlu uchafbwyntiau bywyd ysgol.

Eu tasg yw llunio dyluniadau creadigol ar gyfer baneri, poster a lluniau digidol i ddathlu amrywiaeth y gweithgareddau, adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael mewn ysgolion ac ysbrydoli disgyblion i ddod i’r ysgol yn rheolaidd.

Mae gan ysgolion tan ddydd Mercher, Gorffennaf 16 i gyflwyno’u ceisiadau er mwyn cael cyfle i ennill hyd at £500 mewn talebau.  

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Cafodd ymgyrch Ddim Yno Colli Allan ei lansio yn 2022 ac, ers hynny, mae wedi ymddangos mewn dros 20 o ysgolion ac mae wedi cyrraedd dros 1,100,000 yn y cyfryngau cymdeithasol! 

"Mae disgyblion wrth galon yr ymgyrch ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu dyluniadau yn dathlu’r rhesymau y maen nhw’n hoffi mynd i’r ysgol."

Mae yna ddau gategori – dyluniad ysgol gynradd a dyluniad ysgol uwchradd – gyda thair gwobr i bob categori: 

* Gwobr 1af – Taleb o £500 a throi’r dyluniad buddugol yn faner finyl a ffrâm llun digidol 

* 2il wobr – Taleb o £250 a throi’r dyluniad buddugol yn boster 

* 3ydd wobr – Taleb o £100 a throi’r dyluniad buddugol yn gefndir Teams  

Bydd gwobrau hefyd i’r buddugwyr unigol. 

Bydd panel yn beirniadu’r gystadleuaeth a chaiff yr enillwyr eu cyhoeddi fis Medi.

Gall ysgolion gyflwyno ceisiadau fel unigolyn, dosbarth neu flwyddyn a gallan nhw ymgeisio mwy nag unwaith.

Mae angen danfon lluniau ar ffurf JPEG, PNG neu PDF at pressoffice@torfaen.gov.uk. Rhowch “NIMO Competition” yn llinell y  pwnc. 

Mae presenoldeb mewn ysgolion yn Nhorfaen wedi gwella o gyfartaledd o 92 y cant mewn ysgolion cynradd a 88 y cant mewn ysgolion uwchradd yn 2022, ond mae dal o dan lefelau cyn y pandemig.

Mae ymchwil yn dangos fod disgyblion sy’n bresennol 95 y cant o’r amser neu fwy – sef mwyafswm o 10 diwrnod i fwrdd mewn blwyddyn academaidd – yn fwy tebygol o gael graddau A*-C yn arholiadau TGAU. 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/06/2025 Nôl i’r Brig