Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025
Daeth mwy na 30 o bobl ifanc o bob rhan o Dorfaen ynghyd yr wythnos hon i godi ymwybyddiaeth am wahaniaethu yng Ngŵyl Ffilm Cynghrair Ieuenctid Torfaen -y cyntaf erioed.
Agorodd y digwyddiad, a drefnwyd i roi llwyfan i bobl ifanc fynegi eu pryderon trwy gyfryngau creadigol, gyda dangosiad cyntaf Invisible Lines, ffilm fer animeiddiedig a gynhyrchwyd gan y Fforwm Ieuenctid Sipsiwn a Theithwyr.
Mae'r ffilm yn edrych ar yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu cymunedau ac fe gafodd ganmoliaeth am ei neges bwerus.
Roedd ffilmiau eraill a ddangoswyd yn mynd i'r afael â materion pwysig fel stereoteipio, bwlio, a'r angen i wrando ar farn pobl ifanc a'u cymryd o ddifri.
Dywedodd Rae Carter, sy'n bedair ar ddeg oed, aelod o Fforwm Ieuenctid Torfaen a chyflwynydd y digwyddiad:
"Mae hyn wedi bod yn wych. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda'r tîm ac yn cyfarwyddo'r ffilm."
Mae Cynghrair Ieuenctid Torfaen yn rhwydwaith cydweithredol sy'n cynnwys sawl fforwm ieuenctid, gan gynnwys Fforwm Ieuenctid Sipsiwn a Theithwyr, Fforwm Ieuenctid Torfaen, Cyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl, Tai Ieuenctid, a Chanolfan TOGS Torfaen.
Dywedodd Philip Wilson, Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Torfaen, a sefydlodd y Gynghrair Ieuenctid yn 2024:
"Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych. Mae'r ŵyl ffilm yn benllanw’r holl waith gwych rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd.
"Mae Cynghrair Ieuenctid Torfaen yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Roedd yr ŵyl yn nodi trydydd cyfarfod y grŵp, yn dilyn trafodaethau cynharach am Erthygl 12 CCUHP - hawl pobl ifanc i gael eu lleisiau wedi eu clywed. Arweiniodd hyn at ffocws ar wahaniaethu a sut y gall effeithio ar bobl ifanc o wahanol gefndiroedd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
"Mae cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain a dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau’n bwysig ac yn siapio cenedlaethau'r dyfodol. Mae digwyddiadau fel hyn yn eu grymuso i ddatblygu hyder, ac yn helpu i greu cymunedau tecach ac iachach ar gyfer y dyfodol."
Bydd yr ŵyl ffilm nawr yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, gan gynnig llwyfan creadigol i bobl ifanc arddangos eu gwaith am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.
Mae Cynghrair Ieuenctid Torfaen yn agored i bob grŵp ieuenctid yn y fwrdeistref, ac mae’n croesawu aelodau newydd sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.