Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Ionawr 2025
Bydd cwrs rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried sefydlu busnes manwerthu, bwyd neu stryd fawr yn dechrau fis nesaf.
Bydd y rhaglen 8 wythnos newydd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn ymdrin â datblygu busnes, brandio, marchnata cyfryngau cymdeithasol, gwerthu a chyllid.
Cynhelir y sesiynau bob dydd Mercher, rhwng 5pm a 9pm, gan ddechrau ar Chwefror 5ed.
Cadwch eich lle yma
Mae'r cwrs yn cael ei drefnu gan dîm Economi Sylfaenol y cyngor, sy'n cefnogi busnesau newydd a phresennol yng nghanol trefi Pont-y-pŵl a Blaenafon, ochr yn ochr â'r ganolfan arloesi busnes, Welsh ICE.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydym am helpu ein strydoedd mawr i dyfu trwy fuddsoddi a chefnogi busnesau lleol, a dyna pam mae cyrsiau fel hyn mor bwysig.
"Mae ein tîm Economi Sylfaenol eisoes wedi cael llwyddiant ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ble mae meddiannaeth wedi cynyddu, ac wedi cefnogi busnesau newydd i ddechrau ym Mlaenafon".
"Mae ein tîm bwyd cynaliadwy hefyd yn datblygu rhwydwaith o gynhyrchwyr, cyflenwyr a gwerthwyr bwyd lleol i helpu manwerthwyr newydd ac amrywiol i ffynnu yng nghanol ein trefi."
Dywedodd Hope Eckley, Rheolwr yr Academi, Welsh ICE: "Mae ein cyrsiau bob amser yn boblogaidd. Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd felly cofrestrwch nawr! Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno. "
Mae 40 o leoedd ar gael i unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes manwerthu, bwyd neu stryd fawr.
Mae cwrs cychwyn busnes ar wahân ar gyfer pob sector busnes hefyd yn cael ei drefnu gan dîm ymgysylltiad busnes y cyngor a Welsh ICE ac mae’n dechrau yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog yr wythnos hon, a phob dydd Mawrth tan 11 Mawrth, rhwng 09.30 a 13:00, gyda meithrinfa am ddim ar gael.
Rhan o Gynllun Sirol y cyngor yw gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes drwy annog busnesau newydd a gweithgareddau mentergar.
I gael rhagor o wybodaeth am y ddau gwrs, cysylltwch â hello@welshice.org neu ffoniwch 02920 140 040 os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Mae'r cwrs Clwb 9-5 i Fusnesau Manwerthu, Bwyd a Stryd Fawr yn rhan o fenter yr Economi Sylfaenol sydd wedi derbyn £95,000 yn 2024/25 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.