Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31 Ionawr 2025
Mae disgybl mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi cael cymorth ychwanegol diolch i ganolfan addysg Gymraeg arbenigol.
Mae Carreg Lam, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Panteg, ym Mhont-y-pŵl, yn uned drochi’r iaith Gymraeg. Mae’n helpu disgyblion sydd eisiau symud o addysg cyfrwng Saesneg, yn ogystal â'r rheiny sydd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac sydd angen cymorth ychwanegol gyda'r iaith.
Roedd Ffion, disgybl 9 oed o Ysgol Bryn Onnen, yn ei chael hi'n anodd dysgu Cymraeg yn ystod y pandemig, a doedd y gefnogaeth ychwanegol a gafwyd gan yr ysgol ddim yn ddigon i'w chael hi yn ôl ar y trywydd iawn, ac o ganlyniad cafodd effaith negyddol ar ei hyder.
Ar ôl dechrau blwyddyn 4, cyfeiriodd yr ysgol Ffion at Carreg Lam am gymorth mwy dwys i ddysgu'r Gymraeg, trwy amrywiaeth o arferion addysgol rhyngweithiol a difyr.
Meddai mam Ffion, Sarah: "Mae Carreg Lam wedi bod yn drawsnewidiol i Ffion. Mae wedi dysgu trwy themâu gwahanol a theithiau maes, ac mae wedi rhoi profiadau bywyd go iawn iddi i ddefnyddio'r Gymraeg, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ei dysgu.
"Ers dychwelyd i Ysgol Bryn Onnen, mae Ffion wedi bod yn rhagori. Mae hi'n hapus ac yn ffynnu ym mhob agwedd ar y cwricwlwm, ac mae ei hyder wedi gwella'n sylweddol, yn yr ysgol ac yn y cartref."
Mae Carreg Lam yn cynnig amgylchedd dysgu unigryw sy’n trochi’r disgybl yn yr iaith, ac mae plant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gynlluniwyd i sicrhau bod dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn effeithiol.
Meddai Carys Soper, athrawes yn Carreg Lam: "Mae'r plant yn dysgu cymaint trwy ddysgu’n ymarferol yn ein canolfan. Mae'n anhygoel pa mor gyflym a pha mor hyderus y mae plant yn codi iaith newydd.
"Rydyn ni’n credu bod ein dull gweithredu wedi bod yn allweddol wrth feithrin cariad at y Gymraeg ymhlith ein dysgwyr ifanc, gan eu paratoi at ddyfodol lle gall dwyieithrwydd fod yn fantais sylweddol."
Mae Carreg Lam ar genhadaeth i hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws Torfaen, gan gefnogi targed Llywodraeth Cymru o un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ers agor yn 2023, mae Carreg Lam wedi cefnogi dros 60 o blant ar eu taith Gymraeg, ac am y tro cyntaf mae bellach yn llawn, a’r 12 lle sydd ar gael wedi'u llenwi.
Y tymor nesaf, bydd y ganolfan yn cynnal rhaglen allgymorth lle bydd staff yn ymweld ag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i helpu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 sy'n ystyried addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
I gael gwybodaeth am raglen mis Medi, ewch i www.carreg-lam.com neu cysylltwch â'r ganolfan yn uniongyrchol trwy ffonio 01495 762581, neu anfonwch neges trwy e-bost i carreg-lam@torfaen.gov.uk