Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Ionawr 2025
Mae ysgolion ledled Torfaen yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod yn llywodraethwyr ysgol i helpu disgyblion i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol.
Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn cynnwys llywodraethwyr o blith athrawon, staff, rhieni, aelodau’r gymuned a’r awdurdod lleol - pob un yn hanfodol o ran pennu gweledigaeth glir, dull strategol a goruchwylio perfformiad ariannol.
Fel llywodraethwr, byddwch yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod yr ysgol yn darparu'r addysg orau, ei bod yn cael ei rheoli’n dda, a’i bod yn atebol i'w chymuned. Byddwch yn cyfrannu at benderfyniadau allweddol, o lunio polisïau i gefnogi'r tîm arweinyddiaeth.
Dywedodd David Childs, llywodraethwr ALl a chadeirydd llywodraethwyr Ysgol Panteg, ym Mhont-y-pŵl: "Mae dod yn llywodraethwr ysgol yn ffordd werth chweil o wasanaethu eich cymuned a chyfrannu at rywbeth sydd o fudd i ni i gyd.
"Mae ysgolion cryf yn meithrin cymunedau cryfach, a thrwy wirfoddoli fel llywodraethwr, mae gennych gyfle unigryw i gefnogi a llunio'r gwaith hanfodol hwn."
Fel David, does dim angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg i fod yn llywodraethwr mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd y Pennaeth Dr Matthew Williamson-Dicken: “Mae llywodraethwyr yn chwarae rhan anhepgor yn yr ysgol. Maent yn hanfodol o ran cyfathrebu a thrafod ac mae eu safbwyntiau a’u dealltwriaeth yn hollbwysig i’n prosesau gwneud penderfyniadau. Maent hefyd yn gwasanaethu fel pont rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach.
Yr wythnos hon, bydd tua 30 o lywodraethwyr yn mynychu sesiwn hyfforddi llywodraethwyr ysgolion Cymru yn Ysgol Panteg, a oedd yn canolbwyntio ar rôl llywodraethwr a sut i gefnogi'r ysgol trwy brosesau hunanwerthuso.
Ysgolion neu gynghorau sy’n mynd ati i benodi llywodraethwyr ac mae disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus wasanaethu am bedair blynedd.
Mae'r rôl yn cynnig safbwynt annibynnol ac ystod o gyfleoedd datblygu personol, gan gynnwys profiadau rheoli prosiectau, rheoli ariannol a sgiliau arwain.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Ni allai ein hysgolion wneud y gwaith gwych y maent yn ei wneud heb gefnogaeth llywodraethwyr ysgol. Yn aml, mae gan riant lywodraethwyr a llywodraethwyr cymunedol gysylltiad personol â'r ysgol am eu bod wedi mynychu’r ysgol neu am eu bod yn adnabod rhywun sy'n ddisgybl yno. Mae hyn yn rhoi persbectif unigryw iddynt, ac mae ysgolion yn ei werthfawrogi'n fawr iawn.”
"Mae'r gwaith pwysig a wneir gan lywodraethwyr ysgolion yn cefnogi amcanion lles ein cynllun sirol drwy godi cyrhaeddiad addysgol, helpu unigolion i ennill cymwysterau a sgiliau hanfodol, a meithrin perthnasoedd cryf rhwng ysgolion a chymunedau."
Mae nifer o swyddi gwag i rieni-lywodraethwyr a llywodraethwyr cymunedol yn Nhorfaen ar hyn o bryd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y cyngor -Llywodraethwyr Ysgolion | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen